Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions Y Deyrnas Unedig - Wicipedia

Y Deyrnas Unedig

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland
Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
Baner y Deyrnas Unedig Arfbais y Deyrnas Unedig
Baner Arfbais
Arwyddair: Dieu et mon droit
(Arwyddair brenhinol; Ffrangeg: Duw a fy hawl)
Anthem: God Save The Queen
Lleoliad y Deyrnas Unedig
Prifddinas Llundain
Dinas fwyaf Llundain
Iaith / Ieithoedd swyddogol Dim. Saesneg ydyw de facto;

Mae'r Gymraeg a Gaeleg yr Alban yn mwynhau statws cyfartal â'r Saesneg yng Nghymru a'r Alban yn ôl eu trefn.

Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
Elisabeth II
Tony Blair
Formation
Undeb

1 Ionawr 1801
Esgyniad i'r UE 1 Ionawr, 1973
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
244,820 km² (79fed)
1.34
Poblogaeth
 - amcangyfrif 2005
 - cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
58,789,194 (21ain)
60,209,500
243/km² (48fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
amcangyfrif 2005
$1.833 biliwn (6fed)
$30,470 (18fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.939 (14fed) – uchel
Arian breiniol Punt Sterling (GBP)
Cylchfa amser
 - Haf
GMT (UTC+0)
BST (UTC+1)
Côd ISO y wlad .uk 1
Côd ffôn +44
1 ond ISO 3166-1 (.gb) oes GB

Mae Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)) yn cynnwys Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i amgylchynnir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a'r Môr Iwerydd. Hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif ynys, mae Gwledydd Dibynnol y Goron, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor.

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

Mae Lloegr wedi bod yn wlad unedig ers y 10ed ganrif. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Eingl-Normanaidd ers Statud Rhuddlan ym 1284, yn rhan o Deyrnas Lloegr trwy Ddeddf Uno 1536. Yn Neddf Unoliaeth 1707 cytunodd teyrnasoedd Lloegr a'r Alban i unoliaeth barhaol fel Teyrnas Prydain Fawr (er iddynt rannu'r un brenin ers 1603). Ym 1801, cyfunodd Teyrnas Prydain Fawr efo Teyrnas Iwerddon, (o dan rheolaeth Seisnig rhwng 1169 a 1603), i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rhydd Gwyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd de Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd yr wlad ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwlad ddominyddol y 19ed canrif mewn diwydiant a nerth arforol, rôl arweiniol yn natblygiad democratiaeth seneddol, llenyddiaeth a gwyddoniaeth. Yn ystod ei uchafbwynt teyrnasodd yr Ymerodraeth Prydeinig dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Rhyfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiad ag Ewrop modern a llewyrchus. Serch hynny, er bod y DU yn aelod o'r Undeb Ewropiaidd, nid oes lawer o brwdfrydedd ynghylch cryfhau'r cysylltiad. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae Tŷ'r Arglwyddi wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain Gynulliadau Cenedlaethol gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydliwyd hefyd senedd yn Yr Alban. Ystyrir hefyd cynlluniau ar gyfer Cynulliad annibynnol ar gyfer Lloegr. Mae mudaid Gweriniaeth Prydeinig yn cael sylw y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth gyffredinol i'r frenhiniaeth yn dal i fodoli, heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol.

Mae'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Gymanwlad, yr Undeb Ewropeaidd a Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd. Mae hefyd yn aelod parhaol o'r Pwyllgor Sicirdod y CU gyda phŵer gwaharddiad.

Gweler hefyd: Brenhinoedd Prydeinig; Hanes Lloegr; Hanes Iwerddon; Hanes yr Alban; Hanes Cymru

[golygu] Gwleidyddiaeth

Prif erthygl: Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig

Mae'r Deyrnas Unedig (neu'r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio fersiwn arall ar yr enw yn y Gymraeg) yn fonarchiaeth gyfansoddiadol. Mae'r llywodraeth yn gweithredu yn enw'r frenhines ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr. Llundain yw'r brifddinas a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y Frenhines Elisabeth II yw pennaeth yr wladwriaeth ac fe'i choronwyd ym 1953, wedi iddi esgyn i'r goron ym 1952. Ar y cyfan y mae'n cyflawni dyletswyddau seremoniol, a'r Prif Weinidogsy'n rheoli'r wlad mewn gwirionedd.

[golygu] Gwledydd, Rhanbarthau, Siroedd, ac Ardaloedd

Prif erthygl: Israniadau y Deyrnas Unedig
Y Deyrnas Unedig yn Ewrop
Ehangwch
Y Deyrnas Unedig yn Ewrop

Mae'r Dernas Unedig yn cynnwys tair gwlad - Lloegr, Yr Alban, Cymru a thalaith Gogledd Iwerddon - sydd yn eu tro yn cynnwys yr israniadau canlynol:

  • Israniadau Lloegr, Rhanbarthau Lloegr
  • Ardaloedd Cyngor Yr Alban
  • Awdurdodau Unedol Cymru
  • Israniadau Gogledd Iwerddon

Mae Lloegr wedi ei rhannu yn naw Rhanbarth Swyddi'r Llywodraeth - Gogledd Dwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, Llundain Fwyaf, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr. Mae i bob rhanbarth ei Siroedd a/neu Siroedd Metropolitan a/neu awdurdodau unedol, ac eithrio Llundain a rennir yn fwrdeisdrefi.

Mae'r Alban yn cynnwys 32 cyngor. Mae Cymru yn cynnwys 22 Awdurdod Unedol, sef 10 Bwrdeistref Sîr, 9 o Siroedd, a 3 Dinas. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sîr.

Yn ogystal mae nifer o ddibynyddion gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler gwladfa goronol.

Ni chyfrir Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel yn rhanbarthoedd y Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu faterion allanol.

Rhennir brenhines y Deyrnas Unedig yn symbolaidd gyda 16 o wledydd penadurol eraill, a adnabyddir gyda'i gilydd fel Teyrnasoedd y Gymanwlad, er fod gan Brydain Fawr ddylanwad gwleidyddol bychan dros y cenedlaethau annibynnol hyn.

Erthyglau eraill: Dinasoedd y Deyrnas Unedig, Trefydd y Deyrnas Unedig, Llywodraeth leol yn Lloegr.

[golygu] Daearyddiaeth

Prif erthygl: Daearyddiaeth y Deyrnas Unedig

Mae'r rhannau helaeth o dir Lloegr yn fryniog, ond mae'r wlad yn fwy mynyddig yn y gogledd; mae'r llinell rhwng y tiroedd hyn yn rhedeg rhwng yr afonydd Tees ac Exe. Y Tafwys a'r Hafren yw prif afonydd Lloegr; mae'r prif dinasoedd yn cynnwys Llundain, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Lerpwl, Leeds, Bryste a Newcastle upon Tyne. Ger Dofr mae Twnel y Môr Udd yn cysylltu'r Deyrnas Unedig a Ffrainc.

Mae Cymru yn wlad fynyddog gan mwyaf: yr Wyddfa yw'r copa uchaf, am 1,085 m uwchben y môr. I'r gogledd mae Ynys Môn. Caerdydd yw'r Brifddinas, yn Ne Cymru.

Mae daearyddiaeth yr Alban yn gymysg, gyda iseldiroedd yn y de a'r dwyrain ac ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin, yn cynnwys Ben Nevis, mynydd uchaf y DU (1343 m). Mae llawer o lynnoedd a breichiau Môr hir a dwfn yn yr Alban, a elwir yn firthau, a lochau. Fe gyfrir hefyd dyrfa o ynysoedd i orllewin a gogledd yr Alban, e.e. Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch, ac Ynysoedd Shetland. Caeredin, Glasgow, ac Aberdeen yw'r prif ddinasoedd.

Mae Gogledd Iwerddon, rhanbarth gogledd-ddwyrain ynys Iwerddon, yn fryniog gan mwyaf. Belffast a Deri yw'r prif ddinasoedd.

[golygu] Economi

{Prif|Economi y Deyrnas Unedig}}

Mae'r Deyrnas Unedig, masnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, yn o'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leihaiwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy brogrammau preifateiddio, ac fe gyfyngiwyd twf yr Wladwriaeth Les. Mae Amaethyddiaeth yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn ôl safonau Ewropeaidd, yn cynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gydag ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang o lo, nwy naturiol, ac olew; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfri tuag at 10% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, un o ranniadau uchaf unrhyw genedl ddiwydiannol. Mae gwasaniaethau, yn enwedig bancio, yswiriant , a gwasaniaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino.

Mae llywodraeth Blair wedi gohirio ateb cwestiwn cyfranogiad yn y system Ewro, yn nodi pump o brofion economaidd a ddylir eu pasio cyn i refferendwm allu cymryd lle.

[golygu] Demograffaeth

Prif erthygl: Demograffaeth y Deyrnas Unedig

Saesneg yw'r brif iaith. Mae ieithoedd eraill yn cynnwys y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a Sgoteg. Siaredir hefyd lawer o ieithoedd eraill gan fewnfudwyr o lefydd eraill yn y Gymanwlad.

[golygu] Diwylliant

Prif erthygl: Diwylliant y Deyrnas Unedig

Mae'r Deyrnas Unedig yn gartref i ddwy o brifysgolion enwocaf y byd: Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, ac y mae wedi cynhyrchu gweinyddwyr a pheiriannwyr enwog, er enghraifft Isaac Newton, James Watt, Charles Darwin, ac Alexander Fleming.

Efallai y mae'r dramodydd William Shakespeare yn un o ysgrifenwyr enwocaf y byd; mae ysgrifenwyr enwog eraill o Brydain yn cynnwys y chwiorydd Bronte, Agatha Christie, Charles Dickens, Syr Arthur Conan Doyle a J. R. R. Tolkien. Mae beirdd pwysig yn cynnwys Robert Burns, Thomas Hardy, John Milton, Alfred Tennyson, Dylan Thomas a William Wordsworth.

Mae'r cyfansoddwyr William Byrd, Thomas Tallis, John Taverner, John Blow, Henry Purcell, Edward Elgar, Arthur Sullivan, William Walton, Ralph Vaughan Williams, Benjamin Britten a Michael Tippett wedi gwneud cyfraniadau mawr i gerddoriaeth Brydeinig. Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw John Tavener, Harrison Birtwistle a Oliver Knussen.

Mae gan y Deyrnas Unedig amryw gerddorfa, yn yn cynnwys Cerddorfa Symffoni'r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngolegau cerddoriaeth Prydeinig. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill, Llundain yw un o ddinasoedd pwysicaf am gerddoriaeth yn y byd -- mae gan y ddinas sawl neuadd cyngerdd pwysig ac mae hi'n gartref i'r Tŷ Opera Brenhinol, un o dai opera arweiniol y byd. Hefyd mae cerdd dradoddiadol Brydeinig wedi bod yn ddylanwadol dros y byd eang.

Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog Roc a rôl The Beatles, y Rolling Stones, Led Zeppelin, The Who, Pink Floyd ac Oasis.

Mae arlunwyr enwog o'r Deyrnas Unedig yn cynnwys pobl megis John Constable, Joshua Reynolds, Thomas Gainsborough, William Blake a J.M.W. Turner. Yn yr 20ed ganrif, mae Francis Bacon, David Hockney, Bridget Riley, a'r celfyddwyr pop Richard Hamilton a Peter Blake yn bwysig. Yn ein hamser ni mae'r Arlunwyr Ifanc Prydeinig wedi bod yn enwog, yn enwedig Damien Hirst a Tracey Emin.

Mae gan y Deyrnas Unedig draddodiad theatrig, ac mae gan Lundain lawer o theatrau, yn cynnwys y Theatr Genedlaethol Brenhinol.

Gwyliau Banc a Cyhoeddus
Dyddiad Enw
1 Ionawr Dydd Calan
2 Ionawr (Yr Alban yn unig)
17 Mawrth Dydd Gwyl Padrig (Gogledd Iwerddon yn unig)
Y Dydd Gwener cyn Sul y Pasg dydd Gwener y Groglith
Y Dydd Sul wedi'r lleuad llawn cyntaf ers y cyhydnos gwanwynol Sul y Pasg
Y dydd wedi Sul y Pasg Dydd Llun y Pasg
Dydd Llun cyntaf ym mis Mai Gwyl Banc Calan Mai
Dydd Llun olaf ym mis Mai Gwyl Banc y gwanwyn
12 Gorffennaf Cad y Boyne - Orangemen's Day (Gogledd Iwerddon yn unig)
Dydd Llun diwethaf yn Awst Gwyl Banc yr Haf
25 Rhagfyr Dydd Nadolig
26 Rhagfyr Dydd Gwyl Steffan (nid yn Yr Alban)

[golygu] Cysylltiad allanol

Y Deyrnas Unedig Baner DU
Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | Lloegr



Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd

Baner UE

Yr Almaen | Awstria | Gwlad Belg | Cyprus | Denmarc | Yr Eidal | Estonia | Y Ffindir | Ffrainc | Gwlad Groeg | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Gweriniaeth Iwerddon | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Malta | Portiwgal | Gwlad Pwyl | Sbaen | Slofacia | Slofenia | Sweden | Y Weriniaeth Tsiec | Y Deyrnas Unedig


Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO) Baner NATO

Yr Almaen | Bwlgaria | Canada | Denmarc | DU | Yr Eidal | Estonia | Ffrainc | Gwlad Groeg | Y Weriniaeth Tsiec | Gwlad Belg | Gwlad yr Iâ | Gwlad Pwyl | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Norwy | Portiwgal | Rwmania | Slofacia | Slofenia | Sbaen | Twrci | UDA

Static Wikipedia (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu

Static Wikipedia February 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu