Cymru
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Cymru am byth | |||||
Anthem: Hen Wlad Fy Nhadau | |||||
Ieithoedd swyddogol | Cymraeg, Saesneg | ||||
Prifddinas | Caerdydd | ||||
Dinas fwyaf | Caerdydd | ||||
Prif weinidog | Rhodri Morgan | ||||
Arwynebedd | 20,779 km² | ||||
Poblogaeth - Cyfrifiad 2001 - Amcangyfrif 2004 - Dwysedd |
2,903,085 2.95 miliwn 140/km² |
||||
Arian breiniol | Punt (£) (GBP) | ||||
Cylchfa amser - Haf: |
UTC UTC +1 |
||||
Blodyn cenedlaethol | Cenhinen, Cenhinen Bedr | ||||
Nawddsant | Dewi Sant |
Mae Cymru (Saesneg: Wales) yn un o'r gwledydd sy'n cyfansoddi'r Deyrnas Unedig.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Glaniodd Iŵl Cesar ym Mrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (er nad oedd yr enw hwnnw'n bodoli ar y pryd, hyd yn oed ar y ffurf 'Cambria') am fwy na chanrif wedi hynny. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru , cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae yna dystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant gaer y lleng Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeinwyr hefyd yn brysur yn y gogledd -- mae hen chwedl yn dweud i Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes).
Ni wnaeth yr Eingl-Saeson orfygu Cymru, oherwydd llwyddiannau milwrol y brenhinoedd Cymreig yn ogystal, wrth gwrs, â'r tirwedd a'r hinsawdd. Adeiladodd brenin yr Eingl-Saeson, Offa o Mersia glawdd mawr o ddaear ar hyd y ffin rhwng ei freniniaeth a gwlad y Cymry. Mae darnau o Glawdd Offa i'w weld heddiw.
Yr oedd Cymru'n dal yn wlad Gristnogol pan goresgynnwyd Lloegr gan y tylwythau paganaidd o'r tiroedd ellmynig. Fe aeth Dewi Sant ar bererindod i Rufain yn y 6ed ganrif, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caergaint.
Roedd ymdrech goresgyniad y Normaniaid yn araf yng Nghymru, ac nis gyflawnwyd tan 1282 pan orchfygodd y Brenin Edward I o Loegr Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog olaf annibynol Cymru, mewn brwydr yng Nghilmeri. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth, y cestyll enwocaf yw Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Mae Cymru wedi bod yn Dywysogaeth er y drydedd ganrif ar ddeg, a reolwyd yn wreiddiol gan frenhinoedd neu dywysogion annibynnol neu led-annibynnol megis Llywelyn Fawr ac yna gan ei ŵyr Llywelyn ein Llyw Olaf, a fabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ym 1258: cydnabuwyd hyn gan y Goron Seisnig ym 1277 yn unol â Chytundeb Aberconwy. Ar ol ei goresgyn gan Edward I, mynegwyd y dyhead am annibyniaeth i Gymru yn y 14eg ganrif gan nifer o wrthryfeloedd bychain. Y gwrthrhyfel mwyaf oedd gwrthryfel Owain Glyndŵr a ddechreuodd ym 1400. Curodd gwŷr Glyndŵr lu Seisnig ger Pumlumon ym 1401. Cafodd Glyndŵr ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ag edrychodd am gymorth gan y Ffrancwyr, ond erbyn 1409 roedd gafael y lluoedd Seisnig ar y wlad yn rhy gryf a dirwynodd y gwrthryfel i ben.
Roedd gweddill y 15fed ganrif yn bur ansefydlog hefyd. Ochrai'r rhan fwyaf o'r Cymry â phlaid y Lancastriaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhos. Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w cefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan agor cyfnod y Tuduriaid.
Yn ystod terynasiad Harri VIII o Loegr, rhannwyd Cymru yn saith Sir gan Ddeddf Uno 1536, sef: Brycheiniog, Dinbych, Y Fflint, Morgannwg, Trefaldwyn, Penfro, a Maesyfed, a gwnaethpwyd deddfau Lloegr yn ddeddfau gwlad yng Nghymru.
Mae aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol, a grëwyd ym 1998 ac sy'n cyfarfod yng Nghaerdydd, yn gael eu hethol gan y Cymry. Tywysog Cymru yw'r teitl y mae brenin neu frenhines Prydain Fawr yn arfer rhoi i'w mab hynaf, ond nid yw'r tywysog ei hun yn byw yng Nghymru nac yn cymryd rhan yn ei llywodraeth. Y Tywysog Charles yw'r Tywysog Cymru cyntaf ers yr Oesoedd Canol i fedru siarad dipyn bach o Gymraeg.
[golygu] Daearyddiaeth
Cyn ad-drefnu llywodraeth lleol yn 1972, roedd 13 siroedd yng Nghymru: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Wedi'r ad-drefnu roedd 'na wyth sir: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Canol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Wedi'r creadigaeth yr awdurdodau unigol yn y 1990au, roedd amser anrhefn, efo rhai siroedd yn cymyd eu hen enwau, ac yn gadael rhai trefniadaethau e.e. yr Heddlu, yn croesi ffiniau'r siroedd, a rhai trefydd yn siroedd ar ei hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.
Mae tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyfarnwyd y cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon a Chonwy Treftadaeth Byd UNESCO ym 1986 a'r ardal diwydiannol Blaenafon ym 2000.
Weler hefyd: Rhestr moroedd, baeau a phentiroedd Cymru, Rhestr ynysoedd Cymru, Rhestr mynyddoedd Cymru, Rhestr llynnoedd Cymru, Rhestr afonydd Cymru, Cronfeydd Cymru.
[golygu] Economi
Mae rhannau o Gymru wedi bod yn ddiwydiannol ers yr 18fed canrif. Mae glo, copr, ac aur wedi cael eu mwyngloddi yng Nghymru, a llechi eu chwareli. Roedd gweithiau haearn, tun, a phyllau glo wedi denu nifer o fewnfudwyr i'r wlad yn ystod y 19fed canrif, yn enwedig i gymoedd de Cymru.
[golygu] Demograffeg
Cyfrifiad 2001
- Poblogaeth: 2,903,085, Gwryw: 1,403,782 Benyw: 1,499,303
- amcangyfrif canol 2005 (Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol): 2,958,000
[golygu] Lle geni
- Canran y boblogaeth ganwyd yn:
- Cymru: 75.39%
- Lloegr: 20.32%
- Yr Alban: 0.84%
- Gogledd Iwerddon: 0.27%
- Gweriniaeth Iwerddon: 0.44%
[golygu] Grwpiau ethnig
-
- Croenwyn: Prydeining: 95.99%
- Croenwyn: Gwyddelig: 0.61%
- Croenwyn: eraill: 1.28%
- Cymysg: croenwyn a croendu 0.29%
- Cymysg: croenwyn ac asiaidd 0.17%
- Cymysg: eraill: 0.15%
- Asiaidd:
- Indiaidd: 0.28%
- Pacistanaidd: 0.29%
- Bangladeshaidd: 0.19%
- Asiaidd eraill: 0.12%
- Croendu: 0.25%
- Tseiniaidd: 0.40%
- Canran y boblogaeth yn cydnabod eu hunain fel Cymry: 14.39% (Doedd ffurflen y cyfrifiad ddim yn gofyn y cwestiwn hwn ac fe fu llawer o gwyno am hynny. Felly dyma'r canran o bobl a wnaeth ysgrifennu'r wybodaeth hon ar y ffurflen er nad oedd disgwyl iddynt wneud hynny.)
[golygu] Crefyddau
-
- Cristnogol: 71.9%
- Bwdism: 0.19%
- Hindw: 0.19%
- Iddewig: 0.08%
- Moslemaidd: 0.75%
- Sîcaidd: 0.07%
- Crefyddau eraill: 0.24%
- Dim crefydd: 18.53%
- Dim yn dweud: 8.07%
- Oed y boblogaeth:
- 0-4: 167,903
- 5-7: 108,149
- 8-9: 77,176
- 10-14: 195,976
- 15: 37,951
- 16-17: 75,234
- 18-19: 71,519
- 20-24: 169,493
- 25-29: 166,348
- 30-44: 605,962
- 45-59: 569,676
- 60-64: 152,924
- 65-74: 264,191
- 75-84: 182,202
- 85-89: 38,977
- 90+: 19,404
- Gwybodaeth ar yr iaith Gymraeg:
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn deall Cymraeg yn unig: 4.93%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu na darllen Cymraeg: 2.83%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad a darllen Cymraeg, ond ddim yn ysgrifennu Cymraeg: 1.37%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn yn siarad, darllen, ac ysgrifennu Cymraeg: 16.32%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn gyda rhyw gyfuniad o'r sgiliau hyn : 2.98%
- Canran y boblogaeth 3 blwydd oed neu hýn heb wybodaeth o'r iaith Gymraeg: 71.57%
[golygu] Diwylliant
[golygu] Cysylltiad allanol
Siroedd a Dinasoedd Cymru | |
Dinasoedd, Bwrdreisdrefi a Siroedd gweinyddol ers 1996 |
Gwledydd Celtaidd | ||
---|---|---|
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |
Y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Yr Alban | Cymru | Gogledd Iwerddon | Lloegr |