Ewro
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arian swyddogol mewn 12 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (a rhai gwledydd eraill) yw'r Ewro (€ neu EUR). Mae Banc Canolog Ewrop yn Frankfurt, Yr Almaen, yn rheoli'r Ewro (gweler isod a hefyd Ardal Ewro).
Mae'r Ewro yn arian swyddogol ers 1999, ond am dair blynedd doedd hi ond yn bosib gwneud taliadau heb arian (er enghraifft trosglwyddiadau banc) mewn Ewro. Cyflwynwyd ceiniogau a phapurau Ewro yn lle arian cenedlaethol y gwledydd yn ardaloedd yr Ewro (yr Ewro-floc) ar 1 Ionawr, 2002. Rhennir un Ewro yn gant sent.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y cyfnod trawsnewidiol
Mae Cytundeb Maastricht yn cadarnhau cyflwyniad yr Ewro a'r amodau sy'n orfodol eu cyflawni gan wledydd sydd eisiau defnyddio'r Ewro. Ar 13 Rhagfyr, 1996 roedd gweinidogion cyllid gwledydd yr UE yn arwyddo'r Cytundeb Sefydlogrwydd a Thyfiant. Ar 31 Rhagfyr, 1998) penderfynwyd ar gyfradd cyfnewid pob arian cenedlaethol.
Ers 1 Ionawr, 1999 gellir trosglwyddo arian a gwneud pob math o daliadau mewn Ewros (yng Ngwlad Groeg ers 1 Ionawr, 2001). Roedd hi'n bosib cael cyfrif banc mewn Ewro ers 1999 hefyd, ond doedd dim rhaid gwneud hynny. Beth bynnag, roedd trethi awdurdodau cyhoeddus a rhan-ddaliadau y farchnad stoc dim ond mewn Ewro.
Cyflwynwyd y ceiniogau a phapurau Ewro ar 1 Ionawr, 2002 ac yn ystod y cyfnod (hyd at Chwefror, 2002 ym mwyafrif o wledydd) roedd hi'n bosib defnyddio'r arian sengl a'r arian cenedlaethol ar yr un pryd. Heddiw, dydy'r arian cenedlaethol yr ardaloedd Ewro ddim yn arian cyfnewid.
Beth bynnag, gellir newid darnau a phapurau arian cenedlaethol mewn banc mewn rhai gwledydd, ond mae'r rheolau am hynny yn wahanol ym mhob gwlad.
[golygu] Ardaloedd Ewro
Mae'r Ewro yn arian swyddogol yn y gwledydd a ganlyn (i daliadau dim arian/darnau a phapur Ewro):
- Yr Almaen (1999/2002)
- Awstria (1999/2002)
- Gwlad Belg (1999/2002)
- Y Ffindir (1999/2002)
- Ffrainc (1999/2002)
- Gwlad Groeg (2001/2002)
- Yr Iseldiroedd (1999/2002)
- Iwerddon (1999/2002)
- Yr Eidal (1999/2002)
- Lwcsembwrg (1999/2002)
- Portiwgal (1999/2002)
- Sbaen (1999/2002)
Mae gan nifer o wledydd undeb ariannol gyda gwledydd sy'n aelodau o'r Undeb Ariannol Ewropeaidd a felly mae'r Ewro yn arian swyddogol yn y rheini nawr hefyd:
- Monaco
- San Marino
- Dinas y Fatican
Ac mae nifer o wledydd sy'n bwriadu defnyddio'r Ewro heb penderfynu ymuno â'r Undeb Ewropeaidd:
- Mae Andora yn bwriadu cyflwyno ei darnau Ewro ei hyn, ond ni chafwyd caniatád gan yr Undeb Ewropeaidd hyd hyn.
- Kosofo
- Montenegro
Beth bynnag mae nifer o aelod-wladwriaethau'r UE wedi penderfynu peidio cyflwyno'r Ewro ac yn cadw eu harian eu hunain:
- Denmarc
- Sweden - roedd yn gwrthod am yr ail dro ymuno â'r Undeb Ariannol Ewropeaidd ar 14 Medi, 2003
- Y Deyrnas Unedig
Mae rhaid i'r aelod-wladwriaethau sydd wedi ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai, 2004 gyflawni nifer o amodau cyn medru cyflwyno'r Ewro. Er enghraifft mae'n rhaid fod yn aelod o'r Undeb Ariannol ac yn cael cyfradd cyfnewid cyson rhwng yr Ewro a'u harian cenedlaethol am ddwy flynedd. O ganlyniad mae'n debyg na fydd y gwledydd hyn yn defnyddio'r Ewro cyn 2007 o leiaf. Y gwledydd sydd newydd ymuno â'r UE yw:
[golygu] Canlyniadau economaidd
Disgwylir bydd yr Ewro yn cryfhau'r fasnach rhwng yr Ardaloedd Ewro a bod gwahaniaeth rhwng prisiau pob gwlad yn lleihau achos ei bod hi'n bosib gwerthu cynhyrchion ledled Ewrop ar brisiau tryloyw. Disgwylir hefyd bydd hynny'n cryfhau cystadleuaeth, yn lleihau chwyddiant ac yn cynnyddu safon byw trigolion yr UE. Fodd bynnag, roedd nifer o arbenigwyr yn bryderus am gyflwyno arian sengl mewn ardal mor eang ac amrywiol ac yn rhybuddio bydd y polisi ariannol yn anodd i'w wneud.
Byddai pethau yn newid yn ddramatig pe taw'r pris olew mewn Ewro. Mae'r Ardaloedd Ewro yn mewnforio mwy o olew na'r Unol Daleithiau ac felly mae mwy o Ewros nag o ddoleri yn llifo i wledydd OPEC er fod prisiau olew mewn doleri fel arfer. Mae gwledydd OPEC yn dadlau ynglŷn â chyflwyno pris olew yn yr Ewro.
[golygu] Cyfraddau cyfnewid
Cadarnheuwyd cyfraddau cyfnewid yr arian cenedlaethol mewn perthynas â'r ewro yn ngwledydd Parth yr Ewro ar 31 Rhagfyr 1998 ar sylfaen cyfradd cyfnewid yr ECU.
Mae un ewro yn cyfateb i:
- 1.95583 deutsche Mark yn yr Almaen
- 13.7603 Schilling yn Awstria
- 40.3399 franc yng Ngwlad Belg
- 1936.27 lira yn yr Eidal
- 5.94573 markka yn y Ffindir
- 6.55957 franc yn Ffrainc
- 40.3399 franc yn Lwcsembwrg
- 2.20371 gulden (guilder) yn Yr Iseldiroedd
- 0.787564 punt yn Iwerddon
- 200.482 escudo ym Mhortiwgal
- 166.386 peseta yn Sbaen
Sefydlwyd cyfradd ar gyfer y drachma Groeg yn ddiweddarach, ar 19 Mehefin 2000:
- 340.750 drachma yng Ngwlad Groeg
Cyflwynwyd yr ewro yng Nglwad Groeg ar 1 Ionawr 2001.
[golygu] Symbol
Cynlluniwyd symbol yr € gan Arthur Eisenmenger. Mae'n E fawr a chron gyda dwy linell gyfochrog yn y canol. Mae'n debyg i'r llythyren Roeg 'Espilon' (ε) a llythyren gyntaf y gair 'Ewrop'. Mae'r ddwy linell ganolog yn cynrycholi sefydlogrwydd yr arian a'r economi.