Caeredin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prif ddinas yr Alban ers 1492 yw Caeredin (Dùn Èideann yn Gaeleg yr Alban). Mae hi ar arfordir dwyrain y wlad ac ar lan deheuol y Firth of Forth. Mae Senedd yr Alban, a gafodd ei ail-sefydlu ym 1999, yn y ddinas, ac roedd 448,624 o bobl yn byw ynddi ym 2001.
Mae enw'r ddinas yn dod o'r Frythoneg Din Eidyn, sef Caer Eidyn. Roedd bryngaer Gododdin ar y lle, yn ôl David Nash Ford efallai o Frenin Clinog Eitin yng nghanol y chweched ganrif. Ar ôl ei goresgyn gan y deyrnas Seisnig Bernicia newidiwyd yr enw i Edin-burh, efallai gyda dylanwad enw'r Brenin Edwin o Northumbria.
Mae'r ddinas yn enwog am yr Edinburgh Festival a'r wyl Hogmanay.
[golygu] Hanes
Mae Prince's Street Gardens yn ffordd fawr trwy ganol y ddinas. I'r de i'r ffordd hon mae Castell Caeredin a adeiladwyd uwchben craig clogwyn basalt sydd yn hen losgfynydd a'r Old Town, yr Hen Dref. I'r gogledd i'r ffordd mae Prince's Street a'r New Town, y Dref Newydd. Dechreuwyd adeiladu Princes Street Gardens ym 1816 ar le gwern o'r enw Nor'Loch a oedd yn llyn o'r blaen.
Roedd lleoliad y castell yn gaer naturiol, ac mae'r lle wedi cael ei ddefnyddio ers yr Oes Efydd Diwethaf (tua 850 CC).
Yn ôl adroddiadau Rhufeinig o'r ganrif gyntaf roedd y Votadini (Gododdin yn Brythoneg) yn byw yn y lle a mae cerdd o'r enw Y Gododdin (tua 600) sydd yn sôn am ryfelwyr yn gwledda yn Neuadd Mawr Eidin.
Hyd heddiw, mae llawer o strydoedd canoloesol a hen adeiladau yn yr Hen Dref. Mae yna lu o strydoedd cul o'r enw close neu wynd a sgwarau i gynnal marchnadoedd. Yn ystod y 1700au roedd tua 80,000 o bobl yn byw yn yr Hen Dref gyda wal cryf o'i gwmpas, ond does dim ond 4,000 yn byw 'na heddiw. Dinistriwyd rhan fwyaf yr Hen Dref a'i hadeiladau uchel gan dân ym 1824. Roedd tân ofnadwy arall ar 7 Rhagfyr, 2002 yn dinistrio yr ardal Cowgate yr Hen Dref, gan cynnwys Llyfrgell AI a rhai adeiladau eraill Prifysgol Caeredin.
Dechreuwyd adeiladu'r Ddinas Newydd yn ystod y ddeunawfed ganrif ac mae hi'n enghraifft da iawn o gynllun tref a phensaernïaeth Sioraidd.