Ewrop
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Ewrop yn un o'r saith cyfandir sydd, yn yr achos hwn, yn fwy yn yr ystyr ddiwylliannol a gwleidyddol nag yn ffisioddaearyddol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, yn ffurfio'r rhan mwyaf gorllewinol o Ewrasia. Ar y ffin i'r gogledd mae y Cefnfor Arctig, i'r gorllewin y Cefnfor Iwerydd ac i'r de mae y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a'r Môr Caspian i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir yr Wrals gan y rhan fwyaf fel y tirnod daearyddol a tectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.
Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, yn gwneud lan tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gyda Awstralia yn unig yn llai. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r cyfandir trydydd mwyaf (mae Asia ac Affrica yn fwy) efo poblogaeth o dros 700,000,000, neu tua 11% o poblogaeth y byd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Geirdarddiad
Ym mytholeg Groegaidd, roedd Europa yn tywysoges Phoeniciaidd cafodd ei herwgipio gan Zeus mewn ffurf tarw a'i gymryd i ynys Crete, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. Am Homer, roedd Europé (Groeg: Ευρωπη) yn frenhines mytholegol o Crete, nid dynodiad daearyddol. Daeth Europa yn enw am tir mawr Groeg, ac erbyn 500 BC roedd ei ystyr wedi ehangu i tiroedd y gogledd.
[golygu] Hanes
- Prif erthygl: Hanes Ewrop
Rhannodd yr Ymerodraeth Rhufeinig y gyfandir ar hyd y Rhein a'r Donaw am nifer o ganrifoedd. Yn ddilyn cwymp yr Ymerodraeth Rhufeinig, aeth Ewrop i mewn i'r Oesoedd Tywyll. Yn ystod y cyfnod yma, concrodd yr Ymerodraeth Ottoman Istanbul (Caergystennin) - yn dod â ddiwedd i'r Ymerodraeth Bysantaidd - a ddaeth yn bŵer pwysicaf Ewrop. Dechreuodd y Dadeni cyfnod o ddarganfyddiad, fforiad a chynydd mewn gwybodaeth wyddonol. Yn ystod y bymthegfed ganrif agorodd Portiwgal yr oes o ddarganfyddiadau, efo Sbaen yn ei ddilyn. Ymunodd Ffrainc, yr Iseldiroedd a'r Deyrnas Unedig mewn adeiladu ymerodraethau trefedigaethol enfawr yn Affrica, yr Americas, Asia ac Awstralasia.
Ar ôl yr oes o ddarganfyddiad, dechreuodd syniadau democratiaeth cymryd dros Ewrop. Cododd nifer o frwydrau am annibyniaeth, er enghraifft yn Ffrainc yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig. Arweiniodd y codiad democratiaeth hyn i cynydd mewn tensiynau yn Ewrop ar ben y tensiynau oedd yn bodoli'n barod oherwydd cystadleuaeth a'r Fyd Newydd. Y gwrthdaro mwyaf enwog oedd pryd cododd Napoleon Bonaparte i phŵer a ddechreuodd ar goncwest wnaeth ffurfio'r Ymerodraeth Ffrengig, ac wedyn cwympo'n fuan iawn. Ar ôl y goncwestau yma sefydlogodd Ewrop, ond mi oedd yr hen sefydliadau yn barod yn ddechrau cwympo.
Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yn y Deyrnas Unedig yn hwyr y ddeunawfed ganrif, ac arweiniodd hyn at symudiad i ffwrdd o amaeth, mwy o ffyniant a chynydd cyfatebol mewn poblogaeth. O ddiwedd yr Ail Rhyfel Byd tan ddiwedd y Rhyfel Oer, rhannwyd Ewrop i ddwy brif blociau gwleidyddol ac economaidd: gwledydd Comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop (efo'r eithriadau o Twrci a Groeg) a wledydd Cyfalafwr yn Orllewin Ewrop a Dde Ewrop. O gwmpas 1990, yn ddilyn cwymp Wal Berlin, chwalodd y floc Dwyreiniol.
[golygu] Daearyddiaeth Ewrop
- Prif erthygl: Daearyddiaeth Ewrop
Yn daearyddol mae Ewrop yn rhan o'r ehangdir fwy gelwir yn Ewrasia. Mae'r cyfandir yn dechrau at Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia, sy'n diffinio ffin dwyrain Ewrop â Asia. Nid yw'r ffin de-ddwyrain â Asia yn cael ei ddiffinio'n cyffredinol. Mwyaf cyffredin mae'r Afon Wral neu, fel arall, yr Afon Emba yn cael ei disgrifio fel ffiniau'r cyfandir yn yr ardal yma. Mae'r ffin yn parhau â'r Môr Caspian, ac yna'r Afon Araxes yn y Cawcasws, ac ymlaen i'r Môr Ddu; mae'r Bosporus, Môr y Marmara, ac y Dardanelles yn diweddu'r ffin Asiaidd. Mae Môr y Canoldir i'r dde yn gwahanu Ewrop o Affrica. Y Cefnfor Iwerydd yw'r ffin gorllewinol, ond mae Gwlad yr Ia, llawer pellach i ffwrdd na'r pwyntiau agosaf o Affrica ac Asia, fel arfer yn cael ei cynnwys yn Ewrop.
[golygu] Gwledydd Ewrop
[golygu] Gwladwriaethau annibynnol
Ystyrir y gwladwriaethau annibynnol canlynol i fod yn Ewrop:
1 Nid yw Armenia a Cyprus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol, ond gellir eu ystyried yn Ewropeaidd yn diwylliannol.
2 Mae gan Azerbaijan and Georgia tir yn Ewrop i'r gogledd o frig y Cawcasws a'r Afon Kura.
3 Lleolir rhai rhannau o Ffrainc tu fas i Ewrop (megis Guadeloupe, Martinique, Guyane Ffrengig a Réunion).
4 Mae gan Rwsia a Kazakstan tir yn Ewrop i'r gorllewin o Mynyddoedd yr Wral ac yr Afonydd Wral ac Emba.
5 Mae enw'r wlad yma yn dadl ryngwladol.
6 Mae gan yr Iseldiroedd dwy endid tu fas i Ewrop (Aruba ac Antilles yr Iseldiroedd, yn y Caribi).
7 Lleolir Ynysoedd Madeira Portiwgal yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd yn agos i tir mawr Affrica.
8 Lleolir Ynysoedd Dedwydd Sbaen yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd; lleolir plazas de soberanía (allglofannau) ar tir mawr Affrica.
9 Mae gan Twrci tir yn Ewrop i'r gorllewin a'r gogledd o'r Bosporus a'r Dardanelles.
[golygu] Tabl o wledydd, tiriogaethau a rhanbarthau Ewrop
Enw tiriogaeth, efo baner |
Arwynebedd (km²) |
Poblogaeth (1 Gorffennaf 2002 amcan.) |
Dwysedd poblogaeth (per km²) |
Prifddinas |
---|---|---|---|---|
Dwyrain Ewrop: | ||||
Belarus | 207,600 | 10,335,382 | 49.8 | Minsk |
Bwlgaria | 110,910 | 7,621,337 | 68.7 | Sofia |
Hwngari | 93,030 | 10,075,034 | 108.3 | Budapest |
Moldova | 33,843 | 4,434,547 | 131.0 | Chisinau |
Gwlad Pwyl | 312,685 | 38,625,478 | 123.5 | Warsaw |
România | 238,391 | 21,698,181 | 91.0 | Bucharest |
Rwsia | 3,960,000 | 106,037,143 | 26.8 | Moscow |
Slofacia | 48,845 | 5,422,366 | 111.0 | Bratislava |
Gweriniaeth Tsiec | 78,866 | 10,256,760 | 130.1 | Prag |
Wcráin | 603,700 | 48,396,470 | 80.2 | Kyiv |
Gogledd Ewrop: | ||||
Denmarc | 43,094 | 5,368,854 | 124.6 | Copenhagen |
Deyrnas Unedig | 244,820 | 59,778,002 | 244.2 | Llundain |
Estonia | 45,226 | 1,415,681 | 31.3 | Tallinn |
Ynysoedd Ffaroe (Denmarc) | 1,399 | 46,011 | 32.9 | Tórshavn |
Y Ffindir | 337,030 | 5,183,545 | 15.4 | Helsinki |
Ynys y Garn | 78 | 64,587 | 828.0 | St Peter Port |
Gwlad yr Iâ | 103,000 | 279,384 | 2.7 | Reykjavík |
Iwerddon | 70,280 | 3,883,159 | 55.3 | Dulyn |
Jersey | 116 | 89,775 | 773.9 | Saint Helier |
Latfia | 64,589 | 2,366,515 | 36.6 | Riga |
Lithuania | 65,200 | 3,601,138 | 55.2 | Vilnius |
Norwy | 324,220 | 4,525,116 | 14.0 | Oslo |
Ynysoedd Svalbard a Jan Mayen (Norwy) |
62,049 | 2,868 | 0.046 | Longyearbyen |
Sweden | 449,964 | 8,876,744 | 19.7 | Stockholm |
Ynys Manaw | 572 | 73,873 | 129.1 | Douglas |
De Ewrop: | ||||
Albania | 28,748 | 3,544,841 | 123.3 | Tirana |
Andorra | 468 | 68,403 | 146.2 | Andorra la Vella |
Bosna-Hercegovina | 51,129 | 3,964,388 | 77.5 | Sarajevo |
Croatia | 56,542 | 4,390,751 | 77.7 | Zagreb |
Yr Eidal | 301,230 | 57,715,625 | 191.6 | Rhufain |
Dinas y Fatican | 0.44 | 900 | 2,045.5 | Dinas y Fatican |
Gibralter (DU) | 5.9 | 27,714 | 4,697.3 | Gibraltar |
Groeg | 131,940 | 10,645,343 | 80.7 | Athen |
Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia | 25,333 | 2,054,800 | 81.1 | Skopje |
Malta | 316 | 397,499 | 1,257.9 | Valletta |
Montenegro | 13,812 | 616,258 | 48.7 | Valletta |
Portiwgal | 91,568 | 10,084,245 | 110.1 | Lisbon |
San Marino | 61 | 27,730 | 454.6 | San Marino |
Sbaen | 498,506 | 40,077,100 | 80.4 | Madrid |
Serbia | 88,361 | 9,598,000 | 96.7 | Beograd |
Slofenia | 20,273 | 1,932,917 | 95.3 | Ljubljana |
Gorllewin Ewrop: | ||||
Yr Almaen | 357,021 | 83,251,851 | 233.2 | Berlin |
Awstria | 83,858 | 8,169,929 | 97.4 | Fienna |
Gwlad Belg | 30,510 | 10,274,595 | 336.8 | Brwsel |
Ffrainc | 547,030 | 59,765,983 | 109.3 | Paris |
Yr Iseldiroedd | 41,526 | 16,318,199 | 393.0 | Amsterdam, Den Haag |
Liechtenstein | 160 | 32,842 | 205.3 | Vaduz |
Lwcsembwrg | 2,586 | 448,569 | 173.5 | Lwcsembwrg |
Monaco | 1.95 | 31,987 | 16,403.6 | Monaco |
Y Swistir | 41,290 | 7,301,994 | 176.8 | Bern |
Gorllewin Asia: | ||||
Armenia | 29,800 | — | — | Yerevan |
Azerbaijan | 39,730 | 4,198,491 | 105.7 | Baku |
Cyprus | 5,995 | 780,133 | 130.1 | Nicosia (Lefkosa) |
Georgia | 49,240 | 2,447,176 | 49.7 | Tbilisi |
Twrci | 724,378 | 71,044,932 | 453.1 | Ankara |
Canolbarth Asia: | ||||
Kazakstan | 370,373 | 1,285,174 | 3.4 | Astana |
Cyfanswm | 10,431,299 | 709,022,061 | 68.0 |
[golygu] Gwelwch hefyd
- Hanes Ewrop
- Daearyddiaeth Ewrop
- Undeb Ewropeaidd
- Cyngor Ewrop
- Undeb Gorllewin Ewrop
- Ewropead
- Ewrasia
- Llys Cyfiawnder Ewrop
Cyfandiroedd y Ddaear | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica-Ewrasia |
Yr Amerig |
Ewrasia |
||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica |
Antarctica |
Asia |
Ewrop |
Gogledd America |
De America |
Oceania |
||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Uwchgyfandiroedd daearegol : Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur · Vaalbara | ||||||||||||||||||||||||||||
|
Rhanbarthau'r Ddaear | |||
Yr Affrig | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
---|---|---|---|
Yr Amerig | Y Caribî · Canolbarth · De · Gogledd · Lladin | ||
Asia | Canolbarth · De · De Ddwyrain · De Orllewin · Dwyrain · Gogledd | ||
Ewrop | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
Oceania | Awstralia · Melanesia · Micronesia · Polynesia · Seland Newydd | ||
|
|||
Y Pegynau | Yr Arctig · Yr Antarctig | ||
Cefnforoedd | Arctig · De · India · Iwerydd · Tawel |