Prydain Fawr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Prydain Fawr yn ynys oddi ar arfordir gogledd gorllewinol Ewrop. Mae tair cenedl o fewn yr ynys, sef Cymru, Yr Alban a Lloegr. (Mae rhai pobl yn ystyried Cernyw yn bedwaredd genedl nas cydnabyddir yn swyddogol.) Yn wleidyddol, ystyrir bod yr ynysoedd llai sydd yn rhannau o Gymru, Lloegr, neu'r Alban, fel Ynys Enlli, yn rhannau o Brydain Fawr hefyd. Llywodraethir yr ynys gan senedd yn Llundain fel rhan o wladwriaeth Teyrnas Undedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, er bod mesur o hunanlywodraeth gan Gymru a'r Alban erbyn hyn.