Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Rwmania - Wicipedia

Rwmania

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

România
Rwmania
Baner Rwmania Arfbais Rwmania
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Deşteaptă-te, române!
Lleoliad Rwmania
Prifddinas Bucureşti
Dinas fwyaf Bucureşti
Iaith / Ieithoedd swyddogol Rwmaneg1
Llywodraeth

Arlywydd
Prif Weinidog
Democratiaeth seneddol
Traian Băsescu
Călin Popescu-Tăriceanu
Annibyniaeth
Datganwyd
Adnabwyd

10 Mai, 1877 2
13 Gorffennaf, 1878 3
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
238,391 km² (81fed)
3%
Poblogaeth
 - amcangyfrif Gorffennaf 2006
 - cyfrifiad 2002
 - Dwysedd
 
22,303,552 (50fed)

21,680,974
93.7/km² (79fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
amcangyfrif 2006
$204.4 biliwn (44fed)
$9,446 (67fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2005) 0.792 (64fed) – canolig
Arian breiniol Leu (RON)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .ro
Côd ffôn +40
1Mae ieithoedd eraill, megis Hwngareg, Romani, Wcreineg a Serbeg, yn gyd-swyddogol ar lefelau lleol gwahanol.

2 Rhyfel Annibynniaeth Rwmania

3 Cytundeb Berlin

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Rwmania (Rwmaneg: România /ro.mɨ'ni.a/). Mae'n ffinio â Hwngari a Serbia i'r gorllewin a Bwlgaria i'r de ar lan yr Afon Donaw, ac yr Wcráin a Moldofa i'r gogledd-ddwyrain. Mae gan Rwmania morlin de-ddwyreiniol â'r Môr Du ac mae de-ddwyrain cadwyn y Mynyddoedd Carpathia yn rhedeg trwy ganolbarth y wlad.

Mae Rwmania wedi bod yn aelod o NATO ers 2004, ac mi fydd yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr, 2007, yn dilyn arwyddiad Cytundeb Esgyniad yr UE ar ddechrau 2005.

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

O dan yr Ottomaniaid, o'r bymthegfed ganrif nes y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y Rwmaniaid eu hymgyrch am annibyniaeth genedlaethol yn ystod yr 1820au, yn dyheu at uniad Moldofa, Wallachia a Thransylfania. Yn 1862 unodd Moldofa a Wallachia i ffurfio'r Dywysogaeth unedol o Rwmania, a chreuwyd brenhiniaeth yn 1866.

Bu ymchwydd economaidd bach yn y 1960au a'r 1970au. Nid oedd polisïau awtarciaidd Nicolae Ceauşescu, arweinydd Rwmania Gomiwnyddol o 1965 i 1989, yn lwyddiannus, ac wrth drio talu holl dyled y wlad cafodd effaith ddifrifiol ar yr economi a arweiniodd at dlodi. Ansefydlogodd Rwmania ymhellach wrth iddo droi'n wladwriaeth heddlu (gweler Securitate, heddlu cudd y Rwmania Comiwnyddol). Saethwyd Ceauşescu a'i wraig Ddydd Nadolig 1989, ar ôl iddo orchymyn i'r heddlu cudd ymosod ar brotestwyr yn Nhimisoara.[1]

[golygu] Gwleidyddiaeth

Mae Rwmania yn weriniaeth ddemocrataidd. Mae cangen ddeddffwriaethol llywodraeth Rwmania yn cynnwys dwy siambr, y Senat (Senedd), sydd ag 137 o aelodau (2004), ac y Camera Deputaţilor (Siambr Dirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholir aelodau'r ddwy siambr pob pedair mlynedd.

Etholir yr Arlywydd, pennaeth y cangen weithredol, hefyd gan bleidlais boblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2004, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi'r Prif Weinidog, sy'n bennaeth y lywodraeth, a phenodir aelodau'r lywodraeth gan y Prif Weinidog. Mae angen i'r lywodraeth cael pleidlais seneddol o gymeradwyaeth.

[golygu] Siroedd

Map gweinyddol o RwmaniaMae Transylfania yn wyrdd, Wallachia yn las, ardal Moldofa yn goch, a Dobrogea yn felyn
Ehangwch
Map gweinyddol o Rwmania
Mae Transylfania yn wyrdd, Wallachia yn las, ardal Moldofa yn goch, a Dobrogea yn felyn

Caiff Rwmania ei rhannu i 41 o judeţe, neu siroedd, a bwrdeisiaeth Bucureşti (y brifddinas).

Y siroedd (yn nhrefn yr wyddor) yw:

  • Alba
  • Arad
  • Argeş
  • Bacău
  • Bihor
  • Bistriţa-Năsăud
  • Botoşani
  • Braşov
  • Brăila
  • Buzău
  • Caraş-Severin
  • Călăraşi
  • Cluj
  • Constanţa
  • Covasna
  • Dâmboviţa
  • Dolj
  • Galaţi
  • Giurgiu
  • Gorj
  • Harghita
  • Hunedoara
  • Ialomiţa
  • Iaşi
  • Ilfov
  • Maramureş
  • Mehedinţi
  • Mureş
  • Neamţ
  • Olt
  • Prahova
  • Satu Mare
  • Sălaj
  • Sibiu
  • Suceava
  • Teleorman
  • Timiş
  • Tulcea
  • Vaslui
  • Vâlcea
  • Vrancea

[golygu] Daearyddiaeth

Map o Rwmania gyda dinasoedd a phrif afonydd
Ehangwch
Map o Rwmania gyda dinasoedd a phrif afonydd

Ffurfir rhan fawr o ffiniau Rwmania â Serbia a Bwlgaria gan yr Afon Donaw. Ymunir y Donaw gan yr Afon Prut, sy'n ffurfio'r ffin â Moldofa. Llifir y Donaw i'r Môr Du, yn ffurfio Delta'r Donaw sydd yn cadfa o'r Biosffer.

Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.

Mae gan Rwmania tirwedd eithaf dosbarthol, gyda 34% mynyddoedd, 33% brynau a 33% iseldiroedd.

Mae Mynyddoedd Carpathia yn dominyddu canoldir Rwmania wrth iddynt amgylchynu Gwastatir Uchel Transylfania, 14 o gopâu dros 2 000 m, yr uchaf yn Copa Moldoveanu (2 544 m). Yn y de, mae Mynyddoedd Carpathia yn pereiddio i'r brynau, tuag at Wastadedd Bărăgan.

Tri mynydd uchaf Rwmania yw:

   Enw  Uchder  Grŵp Mynyddoedd
   1 Copa Moldoveanu    2 544 m Mynyddoedd Făgăraş
   2 Omu    2 500 m Mynyddoedd Făgăraş
   3 Piatra Craiului    2 489 m Mynyddoedd Făgăraş

[golygu] Dinasoedd

Y dinasoedd pennaf yw'r prifddinas Bucureşti, Iaşi, Timişoara, Cluj-Napoca, Constanţa, Craiova, Braşov, a Galaţi. Y dinasoedd mwyaf yw:

# Dinas Poblogaeth[2] Sir
1. Bucureşti 2 082 334 Sir Bucureşti
2. Iaşi 320 888 Sir Iaşi
3. Cluj-Napoca 317 953 Sir Cluj
4. Timişoara 317 660 Sir Timiş
5. Constanţa 310 471 Sir Constanţa
6. Craiova 302 601 Sir Dolj
7. Galaţi 298 861 Sir Galaţi
8. Braşov 284 595 Sir Braşov
9. Ploiesti 232 527 Sir Prahova
10. Braila 216 292 Sir Braila
11. Oradea 206 616 Sir Bihor
12. Bacau 175 500 Sir Bacau


[golygu] Cyfeiriadau

  1. BBC Cymru'r Byd – Tramor – Cofio pen-blwydd yn Romania
  2. (Rwmaneg) Athrofa Cenedlaethol o Ystadegau, Cyfrifiad 2002 PDF

[golygu] Cysylltiadau allanol


Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO) Baner NATO

Yr Almaen | Bwlgaria | Canada | Denmarc | DU | Yr Eidal | Estonia | Ffrainc | Gwlad Groeg | Y Weriniaeth Tsiec | Gwlad Belg | Gwlad yr Iâ | Gwlad Pwyl | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Norwy | Portiwgal | Rwmania | Slofacia | Slofenia | Sbaen | Twrci | UDA

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com