Irac
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Arabeg: الله أكبر | |||||
Anthem: Mawtini | |||||
Prifddinas | Baghdad | ||||
Dinas fwyaf | Baghdad | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Cyrdeg | ||||
Llywodraeth
Arlywydd
Prif Weinidog |
Gweriniaeth Jalal Talabani Nouri al-Maliki |
||||
Annibyniaeth O'r Ymerodraeth Ottoman O'r Deyrnas Unedig |
1 Hydref, 1919 3 Hydref, 1932 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
437,072 km² (58fed) 1.1% |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
28,807,000 (40fed) 59/km² (112fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $89,800,000,000 (58fed) $3,500 (122fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | (n/a) – dim | ||||
Arian breiniol | Dinar Iracaidd (IQD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+3) (UTC+4) |
||||
Côd ISO y wlad | .iq | ||||
Côd ffôn | +964 |
Gwlad Dwyrain Canolig yn ne-orllewin Asia yw Gweriniaeth Irac neu Irac (Arabeg: العراق al-‘Irāq neu al-Erāq, Cyrdeg: عيَراق), sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o Mesopotamia, gogledd-orllewin cadwyn y Zagros a dwyrain Anialwch Syria. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia a Choweit i'r de, yr Iorddonen i'r gorllewin, Twrci i'r gogledd, Syria i'r gogledd-orllewin ac Iran i'r dwyrain. Mae gan y wlad ardal morlin gul ar Gwlff Persia. Ystyrir fel y man ble ymddangosodd y gymdeithas sefydlog cyntaf yn y byd gydag holl nodweddion "gwareiddiad" – gwareiddiad Swmeria. Mae Irac wedi bod o dan sylw'r byd yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf oherwydd Rhyfeloedd y Gwlff, dymchweliad yr Arlywydd Saddam Hussein, a ffurfiant llywodraeth ddemocrataidd newydd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Hen hanes
Mae Gweriniaeth Irac wedi ei sefydlu ar dir a abnabyddir yn hanesyddol fel Mesopotamia, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fraich ddwyreiniol y Cilgant Ffrwythlon. Dyma oedd cartref nifer o'r gwareiddiadau cynharaf. Gelwir yr ardal yn aml yn Grud Gwareiddiad.
[golygu] Hanes modern
Yn dilyn ei threchiad yn Rhyfel y Gwlff, bu rhaid i fyddin yr Arlywydd Saddam Hussein tynnu allan o Coweit. Ond er fod 14 o 18 y wlad yn gwrthrefyla yn ei erbyn, ni chafodd ei ddisodli.[1] Arhosodd mewn pŵer nes Rhyfel Irac yn 2003.
[golygu] Rhanbarthau
|
|
[golygu] Daearyddiaeth
Mae mwyafrif Irac yn ddiffeithdir, ond mae'r ardal rhwng y ddwy brif afon, yr Euphrates a'r Tigris, yn dir ffrwythlon. Mae gogledd y wlad yn mynyddog yn bennaf, gyda'i phwynt uchaf yn 3 611 metr, a elwir yn lleol yn Cheekah Dar (Pabell Ddu). Mae gan Irac morlin byr â Gwlff Persia.
[golygu] Demograffeg
Mae tua 79% o boblogaeth Irac yn Arabiaid, 16% yn Cyrdiaid, 3% yn Persiaid a 2% yn Twrcmaniaid. Mae 62% o'r wlad yn Mwslemiaid Shi'a ithna, 33% yn Mwslemiaid Sunni a 5% o grefyddau eraill (yn cynnwys Cristnogaeth).[2] Roedd arfer bod nifer o Iddewon yn byw yn y wlad, ond ers heddiw mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi ymfudo i Israel.[2]
Y ieithoedd swyddogol, sef Arabeg a Chyrdeg, yw'r ieithoedd a siaradir mwyaf.[2]
[golygu] Economi
Bu economi Irac yn dioddef gan nad oedd yn cael prynu a gwerthu gyda gwledydd eraill yn dilyn Rhyfel y Gwlff.[3] Mae'r sefyllfa wedi gwella tipyn yn dilyn rhyfel 2003. Ei brif allforyn yw olew.
[golygu] Cyferiadau
- ↑ "Saddam Hussein: Tu ôl i'r masg cyhoeddus", BBC, 13 Chwefror, 2003.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Financial Times World Desk Reference (Dorling Kindersley, 2004)
- ↑ BBC Cymru'r Byd – Ffeil – Rhyfel Irac
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Arabeg) Gwefan swyddogol y lywodraeth
- (Saesneg) CIA - The World Factbook - Iraq