Arabeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arabeg (لعربية) | |
---|---|
Siaredir yn: | Algeria, Bahrain, Comoros, Tchad, Djibouti, Yr Aifft, Eritrea, Irac, Israel, Gwlad Iorddonen, Coweit, Libanus, Libia, Mauritania, Morocco, Oman, Palesteina, Qatar, Gorllewin Sahara, Arabia Sawdïaidd, Swdan, Syria, Twnisia, Emiradau Arabaidd Unedig, Yemen; |
Parth: | {{{rhanbarth}}} |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 270 miliwn |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | {{{safle}}} |
Dosbarthiad genetig: | Semitaidd Semitaidd Gorllewinol |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Algeria, Bahrain, Comoros, Tchad, Djibouti, Yr Aifft, Eritrea, Irac, Israel, Gwlad Iorddonen, Coweit, Libanus, Libia, Mauritania, Morocco, Oman, Palesteina, Qatar, Gorllewin Sahara, Arabia Sawdïaidd, Swdan, Syria, Twnisia, Emiradau Arabaidd Unedig, Yemen; |
Rheolir gan: | {{{asiantaeth}}} |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ar |
ISO 639-2 | ara |
ISO/DIS 639-3 | {{{iso3}}} |
Gwelwch hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Semitaidd ydy Arabeg. (Hynny yw, yn perthyn i ddisgynyddion Sem, mab Noa.) Mae ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) yn cael eu hysgrifennu o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslemiaid.
Arabeg ydy chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr. Fe siaredir hi ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif. Echel y byd Arabaidd, ar sawl ystyr, yw Cairo yn yr Aifft.
Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi a sebon yn dod o'r Arabeg.
[golygu] Ymadroddion Cyffredin
Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Gymraeg. Darllenwch fel Cymraeg.
- ﺔﻴﺑﺮﻋ : Arabîa : Arabeg
- ﻱﺰﻠﻳﺍﻭ : wailzi : Cymraeg
- ﻝﺎﻐﻟﺍ ﺩﻼﺑ ﺔﻐﻟ : lwrhat bilâd 'al-rhâl : Iaith Cymru
- ﻱﺰﻴﻠﻜﻧﺍ : 'injlizi : Saesneg
- ! ﺎﺒﺣﺮﻣ : marHaban! : Helo!
- ! ﺱﺎﺑ ﻻ : la ba's! : Dim yn ddrwg! ("la ba's?" yw'r ffordd arferol i ddweud "Helo!" neu "Shwmâi!" yn anffurfiol. Atebwch gyda "la ba's!".)
- ! (ﻢﻜﻴﻠﻋ) ﻡﻼﺴﻟﺍ : 'as-salam (Alaicwm)! : Heddwch (arnoch chi)!
- ! ﻡﻼﺴﻟﺍ ﻢﻜﻴﻠﻋ ﻭ : wa Alaicwm, 'as-salam! : Ac i chwithai, heddwch!
- ﻝﺎﺤﻟﺍ ﻒﻴﻛ : caiff 'al-hâl? : Sut mae?
- ! ﻪﻠﻟ ﺪﻤﺤﻟﺍ ﺮﻴﺨﺑ : bi-chair, 'al-Hamdw-li-lah! : Yn dda, diolch i Dduw!
- ! ﺮﻴﺨﻟﺍ ﺡﺎﺒﺻ : SabaH 'al-chair! : Bore/P'nawn da!
- ! ﺮﻴﺨﻟﺍ ﺀﺎﺴﻣ : masa' 'al-chair! : Noswaith dda!
- ! ﻼﻬﺳ ﻭ ﻼﻫﺍ : 'ahlân wa-sahlân! : Croeso!
- ! ﺮﻴﺧ ﻰﻠﻋ ﺢﺒﺼﺗ : tySbiH Alâ chair! : Nos da!
- ! ﺓﺪﻴﻌﺳ ﺔﻠﻴﻟ : laila sAida! : Nos da!
- ! ﻪﻣﻼﺴﻟﺍ ﻊﻣ : mA-s-salama! : Da boch chi!
- ! ﺀﺎﻘﻠﻟﺍ ﻰﻟﺍ : 'ilâ-l-iga'! : Hwyl fawr!
- ! ﻡﻼﺳ : salam! : Heddwch! ( "salam!" yw'r ffordd arferol i ddweud "Hwyl (fawr)!". Gellir defnyddio "salam!" i ddweud "Helo!" hefyd.
- ! ﺍﻮﻔﻋ : Affwân! : Esgusodwch fi! / Da chi!
- ! ﻚﻠﻀﻓ ﻦﻣ : min ffaDlac! : Os gwelwch chi'n dda!
- ! (ﻼﻳﺰﺟ) ﺍﺮﻜﺷ : shwcran (jazîlan)! : Diolch (yn fawr)!
- ! ﺍﺮﻜﺷ ﻻ : la' shwcran : Dim diolch
- ! ﻒﺳﺍ : 'asiff! : mae'n flin gen i!
- ﻢﻌﻧ : nAm : ïe / do / oes, etc.
- ﻻ : la' : nage / naddo / nag oes, etc.
- ! ﻚﺘﺤﺼﺑ : bi-SiHat-ac! : Iechyd da!
Pethau Maen Nhw'n Dweud yn Aml
- ! ﻪﻠﻟ ﺪﻤﺤﻟﺍ : 'al-Hamdw-li-lah! : Diolch i Dduw!
- ! ﻪﻠﻟﺍ ﺀﺎﺷ ﻥﺍ : 'in sha'-l-lah! : Os fydd Duw yn gytun! / Yn obeithiol!