Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Mali - Wicipedia

Mali

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

République du Mali
Gweriniaeth Mali
Baner Mali Delwedd:Mali coa.gif
Baner Arfbais
Arwyddair: Un peuple, un but, une foi
(Ffrangeg): Un pobl, un cyfeirnod, un ffydd
Anthem: Pour l'Afrique et pour toi, Mali
Lleoliad Mali
Prifddinas Bamako
Dinas fwyaf Bamako
Iaith / Ieithoedd swyddogol Ffrangeg
Llywodraeth
Arlywydd
Prif Weinidog
Gweriniaeth Seneddol
Amadou Toumani Touré
Ousmane Issoufi Maïga
Sefydliad
Rhoddir Annibyniaeth

22 Medi, 1960
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,240,192 km² (24ain)
1.6
Poblogaeth
 - amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
13,518,000 (65eg)

11/km² (207eg)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
amcangyfrif 2005
$14,400,000,000 (125eg)
$1,154 (166eg)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.333 (174eg) – isel
Arian breiniol CFA franc (XOF)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC0)
(UTC0)
Côd ISO y wlad .ml
Côd ffôn +223

Gwlad yng Ngorllewin Affrica yw Gweriniaeth Mali, neu Mali yn syml (yn Ffrangeg: République du Mali). Ei henw cyn annibyniaeth oedd Soudan français (Sudan Ffrengig). Y gwledydd cyfagos yw Algeria i'r gogledd, Senegal a Mauritania i'r gorllewin, Guinea i'r de-orllewin, Burkina Faso ac y Traeth Ifori i'r de, a Niger i’r dwyrain. Mae'n weriniaeth annibynnol ers 1960. Prifddinas Mali yw Bamako. Y prif grwpiau ethnig yw'r Bambara, y Fulani a'r Senufo.

Taflen Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Mae Mali yn wlad gyfandirol, heb fynediad i'r môr. Mae rhan helaeth o ogledd a chanolbarth y wlad yn dir anial, sy'n rhan o Anialwch y Sahara; yn y de ceir tir savannah sych (sy'n rhan o'r Sahel) a fforestydd trofaol. Mae bywyd gwyllt y de yn atyniad twristaidd heddiw. Mae Afon Niger yn rhedeg ar draws y wlad fel bwa o'r gorllewin i'r dwyrain ac mae'r prif drefi i'w cael ar hyd ei glannau. Rhwng Ségou a Tombouctou mae'r afon yn troi'n ddelta dŵr croyw sylweddol gyda gwelyau alwfial.

Mae dros 90% o'r boblogaeth yn byw yn y canolbarth a'r de. Ar wahân i'r brifddinas Bamako, y prif drefi a dinasoedd yw Sikasso, Ségou, Mopti, Tombouctou (Timbuktu), Gao a Tessalit.

[golygu] Hanes

Prif erthygl: Hanes Mali
Mosg Djingareiber yn Tombouctou
Ehangwch
Mosg Djingareiber yn Tombouctou

O'r 4edd ganrif ymlaen bu Mali'n rhan o sawl ymerodraeth yn olynol, yn cynnwys Ymerodraeth Ghana, Ymerodraeth Mali (Mansu Musa oedd ei hymerodr galluocaf) ac Ymerodraeth Gao.

O'r 11eg ganrif ymlaen roedd Tombouctou (Timbuktu) yn ganolfan masnach a dysg bwysig. Erbyn y 14eg ganrif roedd ei phrifysgol yn atynu ysgolheigion o bob cwrdd o'r byd Islamaidd.

Yn ystod y 19eg ganrif cafodd ei meddianu gan Ffrainc a'i hymgorffori yng Ngorllewin Affrica Ffrengig. Llwyddodd i ennill hunanlywodraeth fewnol yn 1958 fel rhan o'r Gymuned Ffrengig. Ffurfiodd wladwriaeth newydd gyda Senegal yn 1959 dan yr enw Ffederasiwn Mali ond aeth ei ffordd ei hun ar 22 Medi 1960 fel gwlad annibynnol.

[golygu] Iaith a Diwylliant

Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol ond mae nifer o bobl yn siarad ieithoedd brodorol fel eu mamiaith ac yn defnyddio Ffrangeg fel lingua franca; yr ieithoedd brodorol pwysicaf yw Bamakan a'r ieithoedd Mandé.

Mae'r grwpiau ethnig yn cynnwys y Bambara, y Senufo a'r Fulani, a'r Touareg yn y gogledd. Mae mwyafrif y boblogaeth yn Fwslemiaid.

Mae dinasoedd Mopti, Tombouctou a Bamako yn adnabyddus am eu pensaernïaeth draddodiadol unigryw sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol.

[golygu] Economi

Pysgota ar Lac Sélingué
Ehangwch
Pysgota ar Lac Sélingué

Mae Mali yn un o wledydd tlotaf y byd. Mae nifer o Falïaid yn gorfod gadael y wlad i gael gwaith mewn gwledydd mwy cyfoethog fel Nigeria. Mae dros 80% o'r boblogaeth yn ennill bywoliaeth trwy amaethyddiaeth.

Ers degawdau mae anialu yn broblem gynyddol ac effeithir amaeth yn ardal y safana gan sychder yn aml. Codi anifeiliaid gan nomadiaid sy'n bwysig yn y Sahel ac mae pysgota yn y delta a'r llynnoedd yn bwysig yn ogystal.

Mae'r rhan fwyaf o'r sector diwydiannol yn cynhyrchu nwyddau ar gyfer y sector amaeth domestig. Mae Mali yn ddibynnol iawn ar gymorth tramor.

[golygu] Rhanbarthau

Mali
Ehangwch
Mali

Rhennir Mali yn wyth rhanbarth ac un ardal. Maen hw'n cael eu henwi ar ôl eu tref bwysicaf.

Ceir tair rhanbarth yn y gogledd sy'n cynrychioli dau draean o arwynebedd tir y wlad ond dim ond 10% o'r boblogaeth sy'n byw yno:

Gao,
Kidal
Tombouctou

Yn y de mae'r wlad yn cael ei rhannu'n bump rhanbarth, sef

Kayes
Koulikoro
Mopti
Ségou
Sikasso

Yn ogystal ceir un ardal o gwmpas y brifddinas:

Bamako
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com