Deinosor
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Deinosoriaid (wedi difodi) |
||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||
|
||||||||
Dosbarthiadau | ||||||||
Saurischia |
Ymlusgiaid sydd wedi darfod o'r tir, rhai ohonynt yn meddianu corff enfawr, yw deinosoriaid. Yr oedd y deinosoriaid cyntaf yn byw tua 210 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ond amryfalasant yn gyflym ar ôl y cyfnod Triasig. Roeddent yn fwyaf niferus yn ystod y cyfnodau Jwrasig a Chretasaidd, ond wedi'r cyfnod Cretasaidd diflanodd pob rywogaeth ohonynt, heblaw am y rheini a ddatblygodd i fod yn adar, yn ystod y Difodiant Cretasaidd-Tertaidd tua 65 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Defnyddiodd Richard Owen, gwyddonydd o Loegr, y gair Dinosauria yn gyntaf ym mlwyddyn 1842. Mae'r gair hwn yn gyfuniad o'r geiriau Groegaidd deinos ("ofnadwy" neu "arswydus") a sauros ("genau-goeg" neu "ymlusgiad").
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.