Aderyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Adar | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Colomen |
||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||
|
||||||||
Urddau | ||||||||
Llawer, gweler testun |
Anifail asgwrn-cefn gydag adenydd, pig, plu, dwy goes a gwaed cynnes yw aderyn (lluosog adar). Mae bron pob aderyn yn gallu hedfan, mae adar na allant hedfan yn cynnwys yr estrys, y ciwi a'r pengwiniaid. Mae bron 10,000 o rywogaethau o adar. Maen nhw'n byw mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ledled y byd. Adareg (neu Adaryddiaeth) yw astudiaeth adar.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Anatomi
Mae strwythur adar yn addasu ar gyfer hediad. Mae eu coesau blaen wedi newid i adenydd. Mae pig ysgafn heb ddanedd gydag adar ac mae codennau aer tu fewn i'w hesgwrn.
[golygu] Atgenhedliad
Mae adar yn dodwy wyau gyda phlisgyn caled. Mae'r rhan fwyaf o adar yn adeiladu nyth lle maen nhw'n deor eu hwyau. Mae rhai adar yn cael eu geni'n ddall a noeth. Mae adar eraill yn gallu gofalu am eu hunain bron ar unwaith.
[golygu] Mudiad
Mae llawer o rywogaethau yn mudo er mwyn dianc rhag tywydd oer. Mae miliynau o adar sy'n nythu yn Hemisffer y Gogledd yn mudo i'r de. Mae rhai adar Hemisffer y De yn mudo i'r gogledd. Mae Morwennol y Gogledd yn hedfan ymhellach na unrhyw aderyn arall o'r Arctig i'r Antarctig.
[golygu] Esblygiad
Esblygodd adar o ddeinosoriaid yr urdd Therapoda, mae'n debyg. Yr adar ffosilaidd henaf yw Archaeopteryx. Roedd e'n byw tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
[golygu] Adar a dyn
Mae adar yn ffynhonnell bwysig o fwyd i bobl. Mae rhai adar fel yr iâr a'r twrci wedi eu ffermio ar gyfer eu cig neu wyau. Anifeiliaid anwes poblogaidd yw adar e.e. y byji a'r caneri.
Mae llawer o adar wedi eu peryglu oherwydd hela a dinistr amgylcheddol. Mae elusennau fel Cymdeithas Audubon yn yr Unol Daleithiau a’r RSPB yn y DU yn ymgyrchu dros amddiffyniad adar.
[golygu] Urddau
- Struthioniformes: Estrys, Rheaod, Emiw, Casowarïaid a Chiwïod
- Tinamiformes: Tinamŵod
- Anseriformes: Elyrch, Gwyddau a Hwyaid
- Galliformes: Adar helwriaeth
- Sphenisciformes: Pengwiniaid
- Gaviiformes: Trochyddion
- Podicipediformes: Gwyachod
- Procellariiformes: Albatrosiaid, Adar drycin a Phedrynnod
- Pelecaniformes: Pelicanod, Mulfrain, Huganod a.y.y.b.
- Ciconiiformes: Crehyrod, Ciconiaid a.y.y.b.
- Phoenicopteriformes: Fflamingos
- Accipitriformes: Eryrod, Gweilch a.y.y.b.
- Falconiformes: Hebogiaid
- Turniciformes
- Gruiformes: Rhegennod, Garanod a.y.y.b.
- Charadriiformes: Rhydwyr, Gwylanod, Morwenoliaid a Charfilod
- Pteroclidiformes: Ieir y Diffeithwch
- Columbiformes: Colomennod
- Psittaciformes: Parotiaid
- Cuculiformes: Cogau
- Strigiformes: Tylluanod
- Caprimulgiformes: Troellwyr
- Apodiformes: Gwenoliaid Duon
- Trochiliformes: Adar y si
- Coraciiformes: Gleision y Dorlan, Rholyddion, Cornylfinod a.y.y.b.
- Piciformes: Cnocellod, Twcaniaid a.y.y.b.
- Trogoniformes: Trogoniaid
- Coliiformes: Colïod
- Passeriformes: Adar golfanaidd neu Adar clwydol
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Adareg Canolfan Edward Llwyd, Prifysgol Cymru
- RSPB Cymru