Seland Newydd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: dim (Onward yn flaenorol (sef "ymlaen")) | |||||
Anthem: God Defend New Zealand God Save The Queen |
|||||
Prifddinas | Wellington | ||||
Dinas fwyaf | Auckland | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Māorieg, Arwyddiaith Seland Newydd |
||||
Llywodraeth
Brenhines Llywodraethwr Cyffredinol Prif Weinidog |
Brenhiniaeth gyfansoddiadol Elisabeth II Anand Satyanand Helen Clark |
||||
Annibyniaeth (O'r Deyrnas Unedig) |
26 Medi, 1907 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
268,680 km² (75ain) 2.1% |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2006 - cyfrifiad 2006 - Dwysedd |
4,147,972 (124ain) 4,116,900 15/km² (193ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $97.59 biliwn (58ain) $24,769 (27ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.933 (19eg) – uchel | ||||
Arian breiniol | Doler Seland Newydd ( NZD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
NZST (UTC+12) NZDT (Hyd-Maw) (UTC+13) |
||||
Côd ISO y wlad | .nz | ||||
Côd ffôn | +64 |
Gwlad yn y Môr Tawel sydd yn cynnwys dwy ynys fawr (Ynys y Gogledd ac Ynys y De) a nifer o ynysoedd bychain yw Seland Newydd. Yn iaith y Maori, pobl wreiddiol yr wlad, Aotearoa yw ei henw, a chyfieithir yr enw yn aml fel "gwlad o dan gwmwl gwyn hir". Yn ôl y chwedlau, roedd cwmwl gwyn uwchben uwch pan ddaeth y bobl gyntaf i'r wlad.
Auckland ar Ynys y Gogledd yw'r ddinas fwyaf, ond Wellington (ar yr un ynys) yw'r brifddinas. Y mynydd uchaf yw Aoraki/Mynydd Cook (3,754 m (12,316')) ar Ynys y De.
Awstralia yw'r wlad agosaf. Mae Caledonia Newydd, Ffiji a Thonga i'r gogledd, ond cryn bellter i ffwrdd. Er gwaethaf yr enw, dydy'r môr o gwmpas yr ynysoedd ddim yn dawel o gwbl yn aml, ac mae'n gallu ei gwneud yn anodd i hwylio ar draws y "Cook Strait" rhwng y ddwy brif ynys.
Y chwaraeon poblogaidd yw Rygbi, criced, socer a phêl-droed rheolau Awstralia. Enw tîm rygbi cenedlaethol Seland Newydd yw'r Crysau Duon (mae eu gwisg yn gwbwl ddu). Mae'r ddawns ryfel "Haka" yn cael ei gwneud yn aml cyn eu gêmau.
Mae'r aderyn Kiwi yn symbol o'r wlad, a defnyddir Kiwi yn anffurfiol fel enw neu ansoddair am y wlad neu'r bobl.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.