Aoraki/Mynydd Cook
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Aoraki/Mount Cook | |
---|---|
Aoraki/Mt Cook o'r de, llun wedi cymyd oddiwrth gleider hedegog am uchder o 4000 m (13,000 tr). Roedd y gleider wedi teithio o Omarama, 100 km (62 milltir) o'r mynydd. |
|
Drychiad: | 3,754 m (12,316') |
Lleoliad: | Ynys y De, Seland Newydd |
Cadwyn: | Yr Alpau Deheuol |
Cyfresurau: | 43°36′ S 170°10′ E |
Esgyniad cyntaf: | 1894 gan Tom Fyfe, George Graham, Jack Clarke |
Taith hawsaf: | Dringiad rhewlif/eira/iâ |
Aoraki/Mount Cook yw'r mynydd uchaf yn Seland Newydd. Mae Aoraki/Mt Cook yn gopa yn Yr Alpau Deheuol, cadwen o mynyddoedd sy'n rhedeg lawr yr Arfordir Gorllewin Ynys y De Seland Newydd. Cyrchnod poblogol twristol, mae'r mynydd hefyd yn sialens ffefrynol dringwyr. Mae'r Rhewlif Tasman a Rhewlif Hooker yn llifo lawr y mynydd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Lleoliad
Mae'r mynydd yn y Parc Cenedlaethol Aoraki/Mount Cook. Sefydloedd y parc yn 1953, a gyda'r Parc Cenedlaethol Westland mae'n ffurfio un o'r Parciau Etifeddiaeth y Byd. Mae'r parc yn cynnwys mwy na 140 o gopau dros 2000 m (6500 tr) a 72 rhewlifau gyda enwau, yn gorchuddio 40% o'r 700 km² (173,000 aceri) y parc.
Mae'r setliad Pentref Mount Cook (hefyd yn cael eu galw The Hermitage) yn canolfan twristol a camp i dringo'r mynydd. Mae'r pentref yn 4 km o pen y Rhewlif Tasman, 12 km i'r dde i gopa Aoraki/Mt Cook.
[golygu] Enw
Mae Aoraki yn arwyddocáu "Rhwyllwr y Cwmwlau" yn y tafodiaeth Kāi Tahu o'r iaith Maorieg. Yn hanesyddol, mae'r enw Māori wedi cael eu sillafu yn y ffurf: Aorangi. Mae'r enw Saesneg yn anrhyddedi Capten James Cook, a oedd y tirfesurydd cyntaf yn Seland Newydd a hwyliodd rownd Seland Newydd yn 1770.
[golygu] Ceisiadau ar y gopa
Y cais gyntaf gan Ewropewyr i dringo'r gopa oedd gan yr Wyddel, y Parch. W. H. Green a ddwy arweinyddion mynydd o'r Swistir ar yr 2 Mawrth 1882, ond roeddynt yn 50 m yn fyr o'r gopa cywir. Ar 25 Rhagfyr 1894 dringodd y Seland Newyddwyr Tom Fyfe, James (Jack) Clarke a George Graham y gopa trwy taith y Dyffryn Hooker.
Mae'n dal yn sialens o esgyniad, gyda llawer o stormau, eira serth iawn, a dringo iâ i cyrraedd y gopa. Mae'r mynydd yn gopa driplig, gyda'r copa'r gogledd yn uchaf a'r gopau canolog a deheuol yn ychydig is.
Roedd Aoraki/Mount Cook yn 10 m (33 tr) uchaf tan i ddarn mawr o carreg ac iâ syrthio oddiwrth gopa'r gogledd ar 14 Rhagfyr 1991.
[golygu] Yr Alpau Deheuol
Mae'r Alpau Deheuol wedi cael eu greu ar yr Ynys y De trwy codiad tectoneg a pwysau trwy'r platiau tectoneg y Cefnfor Tawel ac Awstralia-India yn gwrthdaro ar arfordir gorllewinol yr ynys. Mae'r codiad yn achosi Aoraki/Mt Cook codi 10 mm (ychydig llai na hanner modfedd) pob flwyddyn ar gyfartaledd. Er hynny, mae lluoedd erydol hefyd yn siapio'r mynyddoedd. Mae'r tywydd llym o achos y mynydd codi i mewn Gwynt Masnach y Roaring Forties sy'n chwthu rownd y byd tua'r lledred 45° de, i'r dde o Affrica ac Awstralia, felly yr Alpau Deheuol yw'r rhwystr cyntaf mae'r gwyntoedd yn taro ar ol iddynt gadael De America, fel maent y chwthu i'r ddwyrain dros y Cefnfor Deheuol.
[golygu] Coedwigau a Rhewlifau
Mae'r cyfanswm glaw flynyddol yn ardal yr iseltir ger y mynydd tua 7.6 m (300 modfeddi). Mae'r cyfanswm mawr hon yn creu coedwigau glaw tymherol yn yr iseltirau arfordirol, a ffynhonnell dibynadwy o eira yn y mynyddoedd i cadw'r rhewlifau yn llifo. Mae'r rhewlifau yn cynnwys y Rhewlifau Tasman a Murchison i'r ddwyrain, a'r rhewlifau lleiaf Hooker a Mueller i'r dde.