Yr Undeb Ewropeaidd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
(Manylion) | |
Arwyddair | In varietate concordia Cymraeg: Undod mewn amrywiaeth (Gweler Symbolau Ewrop) |
Ieithoedd Swyddogol yr UE |
Gweler Ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd Mae'n bosib fod ieithoedd swyddogol eraill gan aelod-gwladwriaethau. |
Arlywydd y Cyngor Gweinidogion | Finland (Prif Weinidog: Matti Vanhanen) (hyd i Rhagfyr, 2006) |
Arlywydd y Comisiwn | José Manuel Durão Barroso |
Arlywydd y Senedd | Josep Borrell Fontelles |
Maint - Cyfanswm |
wlad 7fed mawr * 3,892,685 km² |
Poblogaeth - Cyfanswm (2004) - Dwysedd |
wlad 3edd mawr * 454,900,000 (EU 25) 116.4 pobl/km² |
CMC (base PPP) - Cyfanswm (2002) - CMC y pen |
Wlad mawrach y byd * € 9.61·10¹² [1] € 21,125 |
Sefydliad - Datganiad - Cydnabodiad |
Cytundeb Maastricht 7 Chwefror, 1992 1 Tachwedd, 1993 |
Pres yr UE | Ewro (EUR neu €) (Ardal Ewro, sefydliadau yr UE) Aelod-gwladwriaethau eraill: [2] CYP, CZK, DKK (in ERM II), EEK, GBP, HUF, LTL, LVL, MTL, PLN, SEK, SIT, SKK. |
Cylchfa amser | UTC 0 hyd i +2 (+1 hyd i +3 yn ystod DST) (with French overseas départements, UTC -4 to +4) |
Anthem cenedlaethol | Awdl Llawenydd (An die Freude) |
Internet TLD | .eu (planned) Second level .eu.int in use. |
Ffonio Cod | Mae ffonio cod ei hun gan pob aelod-gwladwriaeth. Mewn cylchfeydd 3 a 4 |
* pe taw yn un wlad |
Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn grŵp gwleidyddol ac economaidd o wledydd yn Ewrop gyda 25 o aelod-gwladwriaethau ers 1 Mai, 2004. Sefydlwyd yr UE trwy Gytundeb Maastricht ym 1991 ac mae pencadlys ym Mrwsel. Gweler Enwau yr Undeb Ewropeaidd yn ei Ieithoedd Swyddogol am enwau'r Undeb yn ieithoedd swyddogol yr Undeb.
Mae'r UE yn cynnwys marchnad gyffredin, undeb tollau, yr Ewro (yr arian, ond nid ymhob gwlad), polisi amaethyddol cyffredin a pholisi pysgodfeydd cyffredin. Mae hefyd yn darparu nifer o raglenni o gydgysylltu gweithgareddau ei aelod-gwladwriaethau.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Statws
Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-gwladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio "subsidiarity" (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-gwladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-gwladwriaethau i'r UE.
[golygu] Cychwyn
Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Am fanylion gweler Hanes yr Undeb Ewropeaidd.
[golygu] Hanes
Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.
[golygu] Aelod-gwladwriaethau ac ehangu'r Undeb Ewropeaidd
Ers 1 Mai, 2004 mae 25 o aelod-gwladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd yr UE ym 1952/1958:
Mae 19 o wladwriaethau wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:
- ym 1973: Denmarc, Gweriniaeth Iwerddon a'r Deyrnas Unedig
- ym 1981: Gwlad Groeg
- ym 1986: Portiwgal a Sbaen
- ym 1990: ehangwyd tiriogaeth yr UE trwy uno'r Almaen
- ym 1995: Awstria, Y Ffindir, a Sweden
- ym 2004: Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia
Cafodd Y Lasynys ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Am wybodaeth bellach gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.
Heb fod yn aelod-gwladwriaethau o'r UE, mae perthynas arbennig â'r UE gan lawer o wledydd fel Monaco ac Andorra. Gweler hefyd yr erthygl Gwledydd gan perthynas arbennig â'r Undeb Ewropeaidd)
Mae maint holl dirwedd 25 aelod-gwladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 km². Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd boblogaeth yr UE (sef poblogaeth aelod-gwladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tseina.
[golygu] Polisi
Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-gwladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-gwladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.
[golygu] Fframwaith sefydliadol
Mae pum sefydliad yn yr Undeb Ewropeaidd:
- y Senedd Ewropeaidd
- y Comisiwn Ewropeaidd
- Llys Cyfiawnder Ewrop (yn cynnwys Court of First Instance)
- Cyngor Gweinidogion Ewrop
- Llys Archwilwyr Ewrop
Mae dau bwyllgor gan y pum sefydliad sy'n rhoi cyngor am faterion economaidd, cymdeithasol (yn bennaf am y berthynas rhwng gweithwyr a chyflogwyr) a rhanbarthol:
- Pwyllgor y Rhanbarthau
- y Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol
Mae hefyd nifer o gyrff eraill sy'n gweithredu polisïau, oedd wedi'u sefydlu o dan y cytundebau neu o dan ddeddfwriaeth eilradd:
- Banc Canolog Ewrop
- European System of Central Banks
- Banc Buddsoddiad Ewrop
- Cronfa Buddsoddiad Ewrop
- Office for Harmonisation in the Internal Market
- Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop
Ac mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn sicrhau na fydd sefydliadau Ewrop yn camddefnyddio eu pŵer.
Gwledydd yr Undeb Ewropeaidd |
|
---|---|
Yr Almaen | Awstria | Gwlad Belg | Cyprus | Denmarc | Yr Eidal | Estonia | Y Ffindir | Ffrainc | Gwlad Groeg | Hwngari | Yr Iseldiroedd | Gweriniaeth Iwerddon | Latfia | Lithwania | Lwcsembwrg | Malta | Portiwgal | Gwlad Pwyl | Sbaen | Slofacia | Slofenia | Sweden | Y Weriniaeth Tsiec | Y Deyrnas Unedig |