Sodiwm
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Symbol | Na |
---|---|
Rhif | 11 |
Dwysedd | 968 kg m-3 |
Mae'n elfen gemegol yn y tabl cyfnodol ac mae ganddi symbol Na
(oddi wrth Lladin natrium) a rhif atomig 11. Mae sodiwm yn elfen cyffredin mewn cyfansoddion diwidiannol e.e. sodiwm clorid neu halen; sodiwm carbonad (i wneud gwydr); sodiwm hydrogencarbonad ('bicarbonad'); sodiwm hypoclorit (cannydd); sodiwm hydrocsid (soda costig). Mae modd adnabod yr elfen yn y cyfansoddion trwy eu llosgi a welir fflam felen.
[golygu] Yr elfen
Metel arianaidd, meddal yw sodiwm. Mae'n adweithiol iawn, felly mae'n troi'n bŵl mawn aer wrth iddo adweithio gyda'r ocsigen sydd ynddo. Cedwir y metel mewn paraffin er mwyn atal yr ocsigen a'r anwedd dŵr sydd yn yr aer.
Adweithiau cemegol Os ydych yn ei gyfuno gyda dŵr, mae e'n adweithio'n gyflym ac mae'r gwres yn digon i'w ymdoddi. Mae'n rhyddhau'r nwy hydrogen a ffurfio'r alcali sodiwm hydrocsid. Os cyfyngir y sodiwm yn ystod yr adwaith, gall y gwres achosi'r nwy hydrogen cynnu a llosgi gyda fflam felen.
Dosbarthiad naturiol yr elfen Mae llawer o sodiwm yn y môr ar ffurf hydoddiant sodiwm clorid a halidau sodiwm eraill. Yn yr hydoddiant mae'r sodiwm yn bodoli ar ffurf ïonau (symbol cemegol Na+) dyfrllyd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.