Mari I, brenhines Lloegr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 1516 - 17 Tachwedd 1558) yn frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558. Merch Harri VIII, brenin Lloegr a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon oedd hi.
Ar ôl ennill y goron ym 1553 ar farwolaeth ei brawd hŷn, Edward VI, penderfynodd Mari ailsefydlu Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru a Lloegr. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis Richard Davies. Llosgwyd bron tri cant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru, Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd. Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru a Lloegr.
[golygu] Ffynonellau
- Davies, John. Hanes Cymru (Llundain: Penguin, 1990)
Rhagflaenydd: Edward VI |
Brenhines Lloegr 19 Gorffennaf 1553 – 17 Tachwedd 1558 |
Olynydd: Elisabeth I |
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.