Gwalch Glas
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwalch Glas | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Accipiter nisus Linnaeus, 1758 |
Mae'r Gwalch Glas (Accipiter nisus ) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewropac Asia.
Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, weithiau cyn belled a Gogledd Affrica ac India, ond mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.
Mae'n nythu mewn coed, ac yn hela adar bychain yn bennaf. Mae'n medru symud yn gyflym trwy'r coed i ddal adar cyn iddynt wybod ei fod yno. Gellir adnabod y Gwalch Glas o'i gynffon hir ac adenydd gweddol fyr a llydan. Mae'r ceiliog yn llwydlad ar ei gefn a llinellau coch ar y fron, tra mae'r iâr yn fwy brown. Gellir cymysgu rhwng y Gwalch Glas a'r Gwalch Marth ar brydiau, ond mae'r Gwalch Glas yn llawer llai, yn enwedig y ceiliog sydd rhwng 29 a 34 cm o hyd a 59-64 cm ar draws yr adenydd. Mae'r iâr yn fwy, 35-41 cm o hyd a 67-80 cm ar draws yr adenydd, ond me'n dal i edrych yn aderyn llai na cheiliog Gwalch Marth. Mae iâr Gwalch Marth yn fwy byth, tua'r un faint a Bwncath.
Mae'r Gwalch Glas yn aderyn cyffredin yng Nghymru ac i'w weld ymhobman heblaw yn y mynyddoedd.