Goronwy Owen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Goronwy Owen (1723-1769) yn un o feirdd amlyca'r ddeunawfed ganrif yng Nghymru.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei fywyd
Cafodd ei eni ar Ynys Môn. Cafodd ei addysg ffurfiol yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Yr Iesu, Rhydychen er na arhosodd yn y coleg yn hir. Dysgodd am farddoniaeth gan Lewis Morris. Yn Ionawr 1746 fe'i ordeiniwyd yn diacon. Yn ddyn ifanc gadawodd Ynys Môn am y tro olaf, a chrwydro i Sir Ddinbych, Croesoswallt, Donnington wrth ymyl Yr Amwythig a Northol yn Llundain. Ym mis Tachwedd 1757, hwyliodd gyda'i deulu ifanc i gymryd swydd yn Brunswick County, Virginia yn Unol Daleithiau America a bu farw heb ddychwelyd i'w wlad ym mis Mehefin 1769.
[golygu] Ei waith
Bardd alltud oedd - yn fwyaf enwog am ei farddoni am Ynys Môn, er ei fod wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed.
-
-
- Henffych well, Fôn, dirion dir,
- Hyfrydwch pob rhyw frodir.
- Goludog, ac ail Eden
- Dy sut, neu Baradwys hen:
- Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
- Hoffter Duw Nêr a dyn wyd,
- Marian wyd ym mysg moroedd,
- A'r dŵr yn gan tŵr it oedd,
- Eistedd ar orsedd eursail
- Yr wyd, ac ni weli ail,
- Ac euraid wyt bob goror,
- Arglwyddes a mesitres môr.
- I'th irhau cyfoeth y rhod
- A 'mryson â'r môr isod.
- Gwyrth y rhos trwodd y traidd,
- Ynysig unbenesaidd.
-
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith y bardd
- Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759). Tair cerdd.
- Diddanwch Teuluaidd (1763; arg. newydd, 1817). Bron y cwbl o'i gerddi.
- Corph y Gainc (1810). Pump cerdd na cheir yn y Diddanwch.
- John Jones (gol.), Groviana (Llanrwst, 1860). Y cerddi i gyd a sawl llythyr.
- Parch. Robert Jones (gol.), Poetical Works of Goronwy Owen (1876). 2 gyfrol.
- Isaac Foulkes (gol.), Holl Waith Barddonol Goronwy Owen (Lerpwl, 1878).
- eto, Gwaith Goronwy Owen (Cyfres y Fil, Bala, 1902).
- W.J. Gruffydd (gol.), Cywyddau Goronwy Owen (1907).
- J.H. Davies (gol.), The Letters of Goronwy Owen (Caerdydd, 1924).
[golygu] Astudiaethau (detholiad)
- Bedwyr Lewis Jones, yn Gwŷr Môn (1979), golygydd Bedwyr Lewis Jones, Cyngor Gwlad Gwynedd. ISBN 0903935074
- W.D. Williams, Goronwy Owen (Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi, Caerdydd, 1951).