Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Coleg Yr Iesu, Rhydychen - Wicipedia

Coleg Yr Iesu, Rhydychen

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Coleg Yr Iesu, Prifysgol Rhydychen
Enw Llawn Coleg Yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen o Sefydliad Elizabeth
Enwyd ar ol Iesu Grist
Sefydlwyd 1571
Chwaer-Goleg Coleg Yr Iesu
Prifathro Sir John Krebs
Arlywydd y JCR John-Michael Arnold
Arlywydd y GCR Claire Brunel
Lleoliad Turl Street, Rhydychen
Is-raddedigion 344
Graddedigion 134
Gwefan Clwb Rhwyfo

Mae Coleg Yr Iesu yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen. Mae ganddo waddolion ac arian wrth gefn o £79,700,391 (2003). Mae’n un o’r colegau mwyaf canolog yn ninas Rhydychen gyda mynediad yn Turl Street.

Taflen Cynnwys

[golygu] Hanes

Sefydlwyd Coleg yr Iesu yn 1571, ar safle a fu gynt yn lleoliad i'r Neuadd Wen ers y 13eg ganrif. Fe'i sefydlwyd gan wyth o gomisiynwyr, Hugh Price, prebendwr Tyddewi y pennaf ohonynt, a rhoddwyd siarter i’r coleg gan y Frenhines Elisabeth I.

Arfbais Coleg Yr Iesu, Rhydychen
Ehangwch
Arfbais Coleg Yr Iesu, Rhydychen

Ar sail ei addewid o adael £60 y flwyddyn ar ei farwolaeth, cafodd Hugh Price yr awdurdod i benodi prifathro, cymrodorion ac ysgolorion y coleg newydd. Ariannodd gychwyn adeiladu’r coleg, ond ar ei farwolaeth dim ond rhyw £600 o gyfraniad unwaith-ac-am-byth a adawyd ganddo.

Daeth rhoddion mwy sylweddol i’r coleg yn y 17eg ganrif. Gadawodd Herbert Westfaling, Esgob Henffordd, ddigon o arian i sefydlu dau gymrawd ac ysgoloriaeth (er yn gosod yr amod "my kindred shall be always preferred before anie others").[1] Gwariodd Eubule Thelwall, prifathro 1621-1630, ei arian ei hunan ar adeiladu capel, neuadd a llyfrgell. Gorfu dymchwel y llyfrgell dan brifathrawiaeth Francis Mansell (1630-49), a adeiladodd hefyd ddwy risfa ychwanegol er mwyn denu meibion bonedd Cymru i’r coleg.

Leoline (Llywelyn) Jenkins, prifathro 1661-73, a sicrhaoedd ffyniant tymor hir y coleg, wrth iddo adael ar ei farwolaeth yn 1685 ystadau sylweddol a alluogodd sefydlu, a llenwi, nifer helaeth o gymrodoriaethau ac ysgoloriaethau . [2]

Blaen y coleg, Turl Street
Ehangwch
Blaen y coleg, Turl Street
Drws cartref y Prifathro.
Ehangwch
Drws cartref y Prifathro.
Y Capel.
Ehangwch
Y Capel.



Ym 1974, bu’r coleg ymysg y grŵp cyntaf o golegau dynion ym Mhrifysgol Rhydychen i ganiatáu mynediad i fenywod (ynghyd â Brasenose, Wadham, Hertford a Choleg Santes Catrin.

[golygu] Cysylltiadau Cymreig

Mae gan y coleg gysylltiadau cryf â Chymru. Sefydlwyd y coleg ar gais Cymro, Hugh Price, a gwelwyd ers y cychwyn fel 'Y Coleg Cymreig' ym Mhrifysgol Rhydychen. Cyn sefydlu Prifysgol Cymru, Coleg Yr Iesu oedd un o'r prif sefydliadau lle 'roedd nifer prin o Gymry yn cael addysg uwch, ond gwaniodd y cysylltiad dros amser. Ym 1637, allan o 86 o fyfyrwyr ar y llyfrau, cofnodir cartref 60 ohonynt: 31 o Dde Cymru, 13 o Ogledd Cymru, 11 o Fynwy a'r Gororau, un o Ynysoedd y Sianel, ac un yn unig o weddill Lloegr. Erbyn 1895 'roedd y Cymry dal mewn mwyafrif gyda 18 allan o 27 o newydd-ddyfodiaid â chymhwyster Cymreig. Erbyn 1913 'roedd 17 allan o 40 newydd-ddyfodiaid â'r un cymhwyster.

Hyd at 1859 'roedd statudau'r Coleg yn neilltuo bron y cyfan o'r cymrodaethau i Gymry, ond bu diwygiad yn y flwyddyn honno yn lleihau'r nifer oedd ar gael i Gymry yn unig i hanner y cymrodaethau.

Roedd y rhan helaeth o'r prif gymeriadau yn ei hanes, a bron pob un Prifathro, yn Gymry. Yn sgîl y cysylltiadau hyn, roedd rhan helaeth o waddolion y coleg hefyd yng Nghymru; dywedwyd ar un adeg mai Coleg Yr Iesu oedd y tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru oll heblaw'r goron.

Yn academaidd hefyd, mae cysylltiadau furffiol â bywyd Cymreig. Sefydlwyd Athro Celteg y Brifysgol yng Ngholeg Yr Iesu ers 1877. Delir swydd Cymrodor Uwchrifol yn y coleg fel arfer gan un o uwch academyddion Prifysgol Cymru. Sefydlodd Edmwnd Meyricke (1636-1713) ysgoloriaethau yn y coleg, yn bennaf ar gyfer myfyrwyr o Ogledd Cymru, ac wedi eu cyllido gan incwm ystadau yn y Gogledd. Erbyn heddiw, mae'r ysgoloriaethau yn parhau, ond yn agored i fyfyrwyr o Gymru gyfan neu wedi cael addysg yng Nghymru.[3]

Er bod y dylanwadau Cymreig wedi lleihau dros y blynyddoedd, mae'r cysylltiadau ffurfiol sy'n parhau yn ogystal â thraddodiad yn cadw'r dylanwad yn fyw.

Bydd Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu yn y coleg.

Ers 1701 bu'r coleg yn berchen ar un copi o Lyfr Coch Hergest, un o ffynonellau gwreiddiol y Mabinogi. Erbyn heddiw mae'r llyfr yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.

[golygu] Cynfyfyrwyr

T.E. Lawrence.
Ehangwch
T.E. Lawrence.
Harold Wilson
Ehangwch
Harold Wilson
  • William Boyd — awdur
  • James Burke — darlledwr
  • Thomas Charles — (o’r Bala) clerigwr
  • Edward Davey — aelod seneddol
  • Geraint Davies — cyn-aelod seneddol
  • John Davies — (Mallwyd) geiriadurwr
  • Alfred George Edwards — Archesgob cyntaf Yr Eglwys yng Nghymru
  • Richard J. Evans — hanesydd
  • Edward Garnier — aelod seneddol
  • John Richard Green — hanesydd
  • W.J. Gruffydd — llenor ac ysgolhaig
  • Ffion Hague — gwraig y gwleidydd William Hague
  • Huw Jones — canwr a Phrif Weithredwr S4C
  • Paul Jones — canwr poblogaidd gyda Manfred Mann
  • Thomas Jones — arlunydd
  • Lawrence o Arabia — "Lawrence of Arabia"
  • Siân Lloyd — darlledwraig
  • William Lloyd — esgob
  • Edward Llwyd — naturiaethwr
  • Magnus Magnusson — cyflwynydd teledu, darlledwr
  • Syr John Morris-Jones — ysgolhaig
  • Norman Washington Manley — gwleidydd Jamaica
  • Dom Moraes — awdur
  • Beau Nash — cymdeithaswr
  • Goronwy Owen — bardd
  • T.H. Parry-Williams — awdur
  • Pixley ka Isaka Seme — aelod sylfaneol Cyngres Cenedlaethol Affrica
  • Francine Stock — darlledwraig
  • Walter H. Stockmayer — cemegydd
  • Henry Vaughan — bardd a meddyg
  • William Vaughan — awdur
  • Theresa Villiers — aelod seneddol
  • Harold Wilson — cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
  • Watkin Williams-Wynn — gwleidydd a thirfeddiannwr
  • Gwilym Owen Williams — Archesgob Cymru
  • Ellis Wynne — awdur

[golygu] Cysylltiadau allanol

[golygu] Nodiadau

  1. Martin E. Speight, ‘Westfaling , Herbert (1531/2–1602)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 (http://www.oxforddnb.com/view/article/29111, accessed 29 June 2006)
  2. http://www.jesus.ox.ac.uk/history/benefactors.php Benefactors of Jesus College. Date of access 29 June 2006.
  3. J.N.L. Baker (1971) Jesus College, Oxford 1571-1971 Oxonian Press


 
Colegau Prifysgol Rhydychen

All Souls | Balliol | Brasenose | Y Brifysgol | Corpus Christi | Eglwys Crist | Exeter | Y Drindod | Y Frenhines | Green | Harris Manchester | Hertford | Yr Iesu | Kellogg | Keble | Linacre | Lincoln | Magdalen | Mansfield | Merton | Neuadd Lady Margaret | Y Coleg Newydd | Nuffield | Oriel | Penfro | Regent's Park | St Anne | St Antony | Santes Catrin | St Cross | St Hilda | St Hugh | Sant Ioan | St Pedr | Somerville | Templeton | Wadham | Wolfson | Worcester

 
Neuaddau Prifysgol Rhydychen

Blackfriars | Greyfriars | Neuadd Campion | Neuadd St Edmwnd | Neuadd St Benet | Neuadd Wycliffe | Tŷ San Steffan

Ieithoedd eraill
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com