Bryngaer
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Caer a adeiladwyd ar ben bryn fel adeilad amddiffynol yw bryngaer. Mae ei ffurff yn dilyn ffurff y bryn a fel arfer mae rhagfur a ffos o gwmpas ef. Codwyd bryngaerau mewn cyfnodau wahanol ac i bwrpas wahanol (nid yn unig am amddiffyn, ond i gadw anifeiliaid, hefyd), ond yng Nhgymru adeiladwyd mwyafrif ohonyn yn yr Oes Haearn, er enghraifft Bryngaer Llwyn Bryn-dinas ger Llangedwyn, y Breiddin, Moel y Gaer a Dinorben. Mae bryngaerau ledled Ewrop ac yn gwledydd eraill hefyd, er enghraifft codwyd rhai yn Seland Newydd gan y Maori.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bryngaerau Canolbarth Ewrop
Mae bryngaerau hynaf canolbarth Ewrop yn dyddio o'r Oes Neolithig, ond mae'r mwyafrif yn dyddio o gyfnod y diwylliant Urnfield yn yr Oes Efydd) a'r diwylliant Hallstatt yn yr Oes Haearn gynnar, ond adeiladwyd rhai ar ôl goruchafiaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, hefyd. Roedd Iŵl Cesar yn crybwyll y bryngaerau Celtaidd a welodd yn ystod ei ymgyrchoedd o dan yr enw oppida.
[golygu] Bryngaerau Prydain ac Iwerddon
Cartrefi a gwersyllfannau milwrol yr Oes Haearn cyn i'r goresgyniad Rhufeinig yw bryngaerau Prydain. Defnyddiwyd rhai eto ar o'l Cyfnod y Rhufeiniaid daeth i ben cyn cyfnod yr Eingl-Sacsonaidd. Oes aur bryngaerau ym Mhrydain roedd rhwng 200 CC a 43 OC. Yn ardaloedd gan lai o ddylanwad Rhufeinig (e.e. yn Iwerddon a gogledd yr Alban) adeiladwyd bryngaerau am ganrifau ar ôl hynny. Defnyddiodd yr Eingl-Sacsonaidd nifer o'r bryngaerau yn ystod goresgyniad y Llychlynwyr.
[golygu] Bryngaerau yn Ffrainc
Mae Bibracte (Mont Beuvray) a Mont St. Odile (Mur Païen) yn fryngaerau enwog yn Ffrainc ac mae gwarchae bryngaer Alesia lle cafodd Vercingetorix ei orchfygu gan Iŵl Cesar yn enwog iawn hefyd.
[golygu] Enghreifftiau
- Danebury, Hampshire
- Dinas Emrys, Gwynedd
- Maiden Castle, Dorset
- Mount Wellington, Auckland, Seland Newydd
- Old Oswestry, Shropshire
- Old Sarum, Wiltshire
- South Cadbury, Gwlad yr Haf
- Y Heuneburg, yr Almaen
- Trapain Law, East Lothian
- Tre'r Ceiri, Llŷn
- Uffington Castle, Oxfordshire
- The Wrekin, Shropshire