Das Lied der Deutschen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cân genedlaetholgar Almaenig yw Das Lied der Deutschen ('Cân yr Almaenwyr', hefyd Das Deutschlandlied 'Cân yr Almaen'). Defnyddir trydydd pennill y gân heddiw fel anthem genedlaethol yr Almaen. Cyfansoddwyd y geiriau ar 26 Awst 1841 gan August Heinrich Hoffmann von Fallersleben ar ynys Helgoland i gydfynd ag alaw gan Joseph Haydn. Cynhaliwyd perfformiad cyhoeddus cynta'r gân ar 5 Hydref 1841 yn Hamburg.
Cyfansoddwyd yr alaw gan Joseph Haydn, a'i hysgrifennodd adeg y Rhyfeloedd Napoleonaidd, fel anthem i'r Kaiser Franz II yn 1797 (Gott erhalte Franz, den Kaiser, unsern guten Kaiser Franz 'Duw waredo Franz, y kaiser, ein kaiser da Franz'). Hon oedd anthem genedlaethol yr Almaen o 1922 ymlaen. Yng nghyfnod y Drydedd Reich, dim ond y pennill cyntaf a ganwyd, ynghyd â'r gân Natsïaidd, y Horst-Wessel-Lied. Ar ôl sefydliad Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, dim ond y trydydd pennill a ganwyd ar achlysuron swyddogol.
[golygu] Geiriau Das Lied der Deutschen
- Pennill cyntaf
- Deutschland, Deutschland über alles, über alles in der Welt,
- Wenn es stets zu Schutz und Trutze brüderlich zusammenhält
- Von der Maas bis an die Memel, von der Etsch bis an den Belt.
- Deutschland, Deutschland über alles, über alles in der Welt!
- Ail bennill
- Deutsche Frauen, deutsche Treue, deutscher Wein und deutscher Sang
- Sollen in der Welt behalten ihren alten schönen Klang,
- Uns zu edler Tat begeistern unser ganzes Leben lang.
- Deutsche Frauen, deutsche Treue, deutscher Wein und deutscher Sang!
- Trydydd pennill (anthem genedlaethol yr Almaen)
- Einigkeit und Recht und Freiheit für das deutsche Vaterland!
- Danach lasst uns alle streben brüderlich mit Herz und Hand!
- Einigkeit und Recht und Freiheit sind des Glückes Unterpfand;
- Blüh im Glanze dieses Glückes, blühe, deutsches Vaterland!