Sacco a Vanzetti
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nicola Sacco (22 Ebrill, 1891 – 23 Awst, 1927) a Bartolomeo Vanzetti (11 Mehefin, 1888 – 23 Awst, 1927) oedd dau anarchwyr Eidaleg a cafodd eu arestio, eu profi, a'u anfon i'r gadair trydanol yn Massachusetts yn 1927 gyda'r cyhuddiadau o lofruddio swyddog arian ffatri esgidiau o'r enw Frederick Parmenter ac amddiffynwr arfog o'r enw Alessandro Berardelli, ac dwyn $15,766.51 o'r ffatri, er roedd llawer o amheuaeth ynglyn a'u euogrwydd. Cymerodd y llofruddiaethau a'r dwyn le yn Ebrill 1920, â tri ysbeilwyr. Roedd gan Sacco a Vanzetti alibïau, nhw oedd yr unig bobl a gafodd eu cyhuddo o'r drosedd. Disgrifiwyd y Barnwr Webster Thayer, a glywodd yr achos, yn honedig y ddau fel "bastadau anrchaidd". Crydd oedd Sacco enwyd yn Torremaggiore, Foggia, Puglia. Gwerthwr pysgod oedd Vanzetti enwyd yn Villafalletto, Cuneo, Piemonte.
[golygu] Cefndir ac Ymatebion
Ymgyrchodd nifer o ddeuallusion enwog, yn cynnwys Dorothy Parker, Edna St. Vincent Millay, Bertrand Russell, John Dos Passos, Upton Sinclair, George Bernard Shaw a H. G. Wells, am ail-treial ond roeddent yn aflwyddiannus. Ar Awst 23, 1927, ar ol saith mlynedd o garchariad, anfonwyd y dau ddyn i'r cadair trydanol. Dechreuodd y ddienyddiad terfysgoedd yn Llundain, Paris ac yr Almaen.
[golygu] Ymchwiliadau diweddarach
Ymddangosodd un ddarn o dystiolaeth yn cefnogi posibiliad euogrwydd Sacco yn 1914 pryd dywedodd yr arweinydd anarchaidd Carlo Tresca i Max Eastman, "Roedd Sacco yn euog ond roedd Vanzetti yn ddieuog." Argraffwyd Eastman erthygl yn adrodd ei sgwrs a Tresca ym National Review yn 1961. Nes ymlaen, cadarnhaodd eraill cael eu ddweud yr un gwybodaeth gan Tresca.
Ar Awst 23, 1977, yn union pumdeg mlynedd ar ol eu ddienyddiad, cyhoeddodd y Llywodraethwr o Massachusetts Michael Dukakis proclamasiwn yn datgan ni chafodd Sacco a Vanzetti eu thrin yn cyfiawn ac "ddylai unrhyw gwaradwydd cael ei ddiddymu o'u henwau am fyth".