Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Metel alcalïaidd - Wicipedia

Metel alcalïaidd

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Gelwir yr elfennau yng ngrŵp 1 y tabl cyfnodol yn fetelau alcalïaidd. Lithiwm, sodiwm, potasiwm, rwbidiwm a cesiwm yw aelodau sefydlog y grŵp. Mae aelod olaf y grŵp, ffransiwm, yn elfen ymbelydrol a sawl isotop iddo. Hanner oes o 22 munud sydd i'r isotop mwyaf sefydlog ohonynt. Gelwir yr elfennau yn fetelau alcalïaidd am eu bod yn fetelai sy'n ffurfio hydoddiannau alcali pan maent yn cael eu hychwanegu at ddŵr.


Taflen Cynnwys

[golygu] Priodweddau'r elfennau

[golygu] Priodweddau Ffisegol

Maent oll yn fetelau felly mae ganddynt briodweddau nodweddiadol metelau fel dargludedd trydanol a thermol a golwg sgleiniog. Gan bod yr elfennau yn adweithiol iawn, rhaid eu glanhau neu eu torri i weld gwyneb sgleiniog. Mae'r wyneb sgleiniog yn troi'n bŵl yn gyflym mewn aer. Yn wahanol i'r mwyafrif o fetelau maent yn feddal iawn, yn ddigon meddal i'w torri gyda chyllell. Mae gan bob un ohonynt ddwysedd, ymdoddbwynt, a berwbwynt isel iawn.

Mae priodweddau ffisegol yr elfennau hyn yn wahanol i'r metelau eraill oherwydd natur y bondio metelig ynddynt. Mae cryfer bondio metelig yn dibynnu ar y nifer o electronau allanol mewn atom, a'r dwysedd gwefr ar yr ïon sy'n ffurfio wrth eu colli. Yn yr elfennau hyn, dim ond un electron allanol o bob atom sy'n cael ei ddefnyddio yn y bondio metelig, sy'n gwneud y bondio'n wan. Mae radiws yr ïonau M+ yn cynyddu wrth fynd i lawr y grŵp o lithiwm i ffransiwm, felly mae'r dwysedd gwefr yn gostwng ac mae cryfder y bondio metelig yn lleihau. Arwain hyn at y patrymau amlwg ym mhriodweddau ffisegol yr elfennau, gyda'r ymdoddbwynt a berwbwynt yn gostwng yn raddol wrth fynd i lawr y grŵp.

Metel Màs atomig (u) Ymdoddbwynt (K) Berwbwynt (K) Dwysedd (g cm-3)
Lithiwm 6.941 453.69 1615 0.534
Sodiwm 22.990 370.87 1156 0.968
Potasiwm 39.098 336.53 1032 0.856
Rwbidiwm 85.468 312.46 961 1.53
Cesiwm 132.91 301.59 944 1.87
Ffransiwm (223) ? ? ?

[golygu] Priodweddau cemegol

Mae'r metelau yn adweithiol iawn, ac maent oll yn adweithio gydag ocsigen yn yr aer, a chydag anwedd dŵr. I atal y broses, cedwir yr elfennau mewn olew, i gadw'r ocsigen a'r anwedd dŵr i ffwrdd o'r metel. Mae'r adweithedd hyn yn cynyddu i lawr y grŵp wrth i egni ïoneiddiad yr elfennau ostwng.

[golygu] Adweithiau yn yr aer

Mae'r metelau oll yn adweithio'n gyflym gydag ocsigen yn yr aer. Mae'r broses yn ffurfio'r metel ocsid ar ffurf solid dros wyneb y metel. Disgrifir y broses gan yr hafaliadau cemegol cyffredinol:

{Metel} + {Ocsigen}   \to  {Metel Ocsid}

4{M}{(s)} + {O_2}{(n)} \to 2{M_2O}{(s)}
Gall M gynrchioli unrhyw fetel alcalïaidd.

Mae rhai ocsidau fwy cymhleth yn cael eu ffurfio gan aelodau trymach y grŵp os gwresogir neu llosgir yr elfennau. Mae rhain yn cynnwys perocsidau (M2O2) (e.e. sodiwm perocsid) ac uwchperocsidau (MO2) (e.e. potasiwm uwchperocsid). Os gwresogir lithiwm, gall y metel adweithio gydag nitrogen o'r aer hefyd i ffurfio lithiwm nitrid. Lithiwm yw'r unig elfen yng nghrŵp I i ffurfio nitrid. Mae hwn yn un enghraifft o'r perthynas croeslin yng nghemeg, gydag lithiwm yn dangos rhai priodweddau sy'n debyg i magnesiwm.

[golygu] Adwaith gyda dŵr

Mae adwaith y metelau alcalïaidd gyda dŵr yn un ffyrnig, gydag adweithedd y metelau yn cynyddu i lawr y grŵp. Mae pob un o'r adweithiau yn creu cynhyrchion cyffelyb, yn cynnwys y nwy hydrogen ac hydrocsid y metel (lithiwm hydrocsid, sodiwm hydrocsid, potasiwm hydrocsid, rwbidiwm hydrocsid neu cesiwm hydrocsid)

{Metel} + {Dwr}   \to  {Metel Hydrocsid} + {Hydrogen}
2{M}{(s)} + 2{H_2O}{(h)} \to 2{MOH}{(dyfr)} + {H_2}{(n)}

Mae'r nwy hydrogen yn fflamadwy iawn, a gall gwres yr adwaith ecsothermig ei gynnu i greu fflam. Mae'r hydoddiant metel hydrocsid yn alcali, a hwn sy'n rhoi'r enw 'metel alcalïaidd' i aelodau grŵp 1.

[golygu] Adwaith gydag amonia

Mae'r metelau alcalïaidd yn hydoddi mewn amonia hylifol i greu hydoddiannau glas paramagnetig.

{K}{(s)} + {NH_3}{(h)} \to {K}^{+}   {(hydodd)} + {e}^{-}   {(hydodd)}

Mae'r hydoddiant yn cynnwys electronau rhydd, sy'n achosi cyfaint y cymysgedd i fod yn fwy na swm cyfeintiau'r metel ac amonia. Mae'r electronau hefyd yn galluogi'r hydoddiant i fod yn rhydwythydd ardderchog.


[golygu] Yr elfennau mewn natur

Maent oll yn fetelau adweithiol iawn, felly nid yw'r elfennau i'w darganfod yn naturiol ar ffurf metelau pur. Sodiwm yw'r elfen fwyaf cyffredin o'r grŵp gyda meintaiu sylweddol yn bodoli yn y cyfansoddyn sodiwm clorid (halen) yn y ddaear, a wedi ei hydoddi yn y môr.


[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cysylltiadau allanol

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com