Mathemateg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn fras, astudiaeth rhifau a ffigurau yw mathemateg. Diffiniwyd mathemateg gan amlaf fel astudiaeth o'r patrymau mewn ystrwythyr, newidiad, a gofod. Gellir gweld mathemateg fel estyniad o iaith, ai llafar neu ysgrifenedig, gyda geirfa a chystrawen trachywir tu hwnt, ar gyfer disgrifio ac archwilio perthnasau materol a chysyniadol. Daw'r gair mathemateg o'r Groeg μάθημα (máthema) sy'n golygu "gwyddoniaeth, gwybodaeth, neu ddysg" a μαθηματικός (mathematicós) sy'n golygu "yn hoff o ddysgu".
Gellir rhannu mathemateg, yn fras, yn mathemateg bur, mathemateg cymwysiedig, a mathemateg cymwysiadwy (sef Ystadegaeth a Thebygolrwydd).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.