Iaith
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfundrefn gyfathrebu yw Iaith. Gelwir yr astudiaeth o ieithoedd yn Ieithyddiaeth. Mae'n cynnwys astudiaeth o gystrawen, seineg a morffoleg iaith.
Does dim cytundeb pryd y dechreuwyd defnyddio iaith gan yr hil ddynol. Mae amcangyfrifon yn amrywio o ryw ddwy filiwn o flynyddoedd yn ôl hyd at mor ddiweddar â phedwar deg mil o flynyddoedd yn ôl.
Mae ieithoedd y byd wedi eu rhannu'n deuluoedd ieithyddol lle mae'r ieithoedd ym mhob teulu yn tarddu o'r un ffynhonell hanesyddol. Rhai o'r prif deuluoedd ieithyddol yw'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd, yr ieithoedd Affro-Asiataidd, a'r ieithoedd Sino-Tibetaidd.
[golygu] Gweler hefyd
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.