Leiden
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Leiden yn ddinas hanesyddol yn yr Iseldiroedd, 15km i'r gogledd o Den Haag a 40km i'r de-orllewin o Amsterdam. Mae Afon Oude Rijn ("Hen Afon Rhine") yn llifo trwy'r dref.
[golygu] Hanes
Rhoddwyd y dref dan warchae gan y Sbaenwyr yn 1572 ond codwyd y gwarchae yn y flwyddyn ganlynol trwy'r dull anghyffredin o orlifio'r tir o'i chwmpas â dyfroedd Afon Oude Rijn.
[golygu] Y brifysgol
Mae Leiden yn enwog am ei brifysgol, a sefydlwyd yn 1575, oedd ar un adeg yn un o ganolfannau dysg pwysicaf Ewrop. Ymhlith ei myfyrwyr enwog gellid enwi'r nofelydd Henry Fielding.