Hwyaden Bengoch
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hwyaden Bengoch | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Aythya ferina Linnaeus, 1758 |
Mae'r Hwyden Bengoch (Aythya ferina) yn hwyaden o faint canolig ac yn aelod o deulu'r hwyaid trochi.
Mae'r ceiliog yn drawiadol gyda'r pen a'r gwddf yn goch, y fron yn ddu a'r cefn a'r ochrau yn llwyd. Lliw brownllwyd sydd ar yr iâr.
Yn ystod y tymor nythu ceir yr Hwyaden Bengoch trwy'r rhan fwyaf o ogledd Ewrop a rhannau o Asia. Yn y gaeaf mae'n mudo tua'r de a'r gorllewin, a gellir gweld heidiau o gannoedd gyda'i gilydd ar lynnoedd addas, yn aml gyda hwyaid eraill fel yr Hwyaden Gopog.
Maent yn bwydo trwy drochi am blanhigion ar waelod y llyn, ac weithiau ymlusgiaid bychain a hyd yn oed bysgod bychain. Yn aml maent yn bwydo yn ystod y nos.
Ychydig o barau sydd yn nythu yng Nghymru, y rhan fwyaf ar Ynys Môn, ond gellir gweld llawer mwy ohonynt yn ystod y gaeaf.