Gliniadur
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyfrifiadur cludadwy yw Gliniadur. Mae'n ddigon bach i gario o dan un braich (tua 1-4 cilogram) ond digon mawr i gael sgrin (tua 12-17 modfedd) a bysellfwrdd. Termau eraill yw 'Cyfrifiadur Côl' a 'Sgrîn-ar-lin'.
O reidrwydd mae cyfrifiaduron felly yn tueddu i fod yn llai o ran maint ac yn llai o ran pwêr na chyfrifiaduron disymud. Fel arfer maent yn cael eu pweru gan fatri mewnol sy'n para tua 2-4 awr ar y tro.