Cytundeb Aberconwy
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cytundeb a arwyddwyd rhwng Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Edward I, Brenin Lloegr yn 1277 oedd Cytundeb Aberconwy.
Cadwodd Llywelyn y teitl Tywysog Cymru, a chafodd ganiatâd i briodi Eleanor de Montford. Ond unig etifeddiaeth Llywelyn oedd Gwynedd a doedd dim ond pump o fân-arglwyddi Cymru i dalu gwrogaeth iddo gan fod y gweddill i dalu gwrogaeth i Edward. Roedd Dafydd ei frawd i gael llywodraethu Rhufoniog a Dyffryn Clwyd ac roedd Gruffydd ap Gwenwynwyn i gael Powys.