Y Celtiaid
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn wreiddiol, roedd y Celtiaid yn bobl a oedd yn perthyn i'w gilydd ac yn byw yng nghanol Ewrop. Roedd eu diwylliant a'u hiaith yn debyg iawn i'w gilydd ac yn ôl pob tebyg 'roedd iddynt hynafiaid cyffredin. Heddiw, cynrychiolir diwylliant ac iaith y Celtiaid gan y chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd orllewin Ewrop - yr Alban, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw, a Llydaw. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn ieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, a Chernyweg) a rhwng y tair iaith Oideleg (Gaeleg, Gwyddeleg, a Manaweg). Mae diwylliannau Celtaidd yn cynnwys y diwylliant Hallstatt a diwylliant La Tène.
Crybwyllwyd y Celtiaid am y tro cyntaf gan y Groegwr Hecataeus ym 517 CC. Fe'i gelwid yn keltoi, sydd yn golygu "pobl gudd".