Dewi Sant
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano. Mae'n sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf.
Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yn Henfynyw ger Aberaeron, ond mae traddodiad arall yn cyfeirio at Capel Non, gerllaw Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Ei fam oedd y santes Non.
Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn Nhyddewi (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn llawysgrif Wyddelig o tua'r flwyddyn 800. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin vallis rosina sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu cwm corsiog.
Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i Iwerddon, Cernyw, Llydaw gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.
Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r fuchedd a ysgrifennodd Rhigyfarch tua'r flwyddyn 1100. Gelwir y cyfieithiad Cymraeg Canol o'r Lladin wreiddiol Buchedd Dewi Sant.
Yn ôl traddodiad bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth, a dyma'r dyddiad y dethlir Gŵyl Ddewi bob blwyddyn.
Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei fynachlog. Roedd yr oriau gweddïo yn hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r efengyl i'r paganiaid yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus).
Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â Sant Padrig ar Ynys Dewi, ar arfordir Sir Benfro ger Tyddewi.