Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Owain Glyndŵr - Wicipedia

Owain Glyndŵr

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Wyneb Insel Fawr Owain Glyndŵr. Eistedda'r tywysog ar orsedd dan ganopi Gothig â theyrnwialen yn ei law dde. Mae breichiau'r gadair yn ymestyn allan ar y ddwy ochr ar ffurf corff blaidd. Yn y cefndir gwelir mantell ac arni llewod herfeiddiol, sy'n cael ei dal i fyny gan ddau angel. Wrth ei draed mae dau oen yn gorwedd. Mae'r ysgrif yn datgan 'Owynus [Dei gracia] princeps Walliae' (Owain, trwy ras Duw Tywysog Cymru). Defnyddwyd yr insel ar llythyrau Owain i Siarl VI o Ffrainc (Llythyrau Pennal) yn 1406. (Archives Nationales, Paris).
Ehangwch
Wyneb Insel Fawr Owain Glyndŵr. Eistedda'r tywysog ar orsedd dan ganopi Gothig â theyrnwialen yn ei law dde. Mae breichiau'r gadair yn ymestyn allan ar y ddwy ochr ar ffurf corff blaidd. Yn y cefndir gwelir mantell ac arni llewod herfeiddiol, sy'n cael ei dal i fyny gan ddau angel. Wrth ei draed mae dau oen yn gorwedd. Mae'r ysgrif yn datgan 'Owynus [Dei gracia] princeps Walliae' (Owain, trwy ras Duw Tywysog Cymru). Defnyddwyd yr insel ar llythyrau Owain i Siarl VI o Ffrainc (Llythyrau Pennal) yn 1406. (Archives Nationales, Paris).

Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyndwr neu Owain ap Gruffudd (1354-c.1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru.

Sycharth, ger Glyndyfrdwy, Corwen oedd ei etifeddiaeth; trwy ei fam roedd yn hawlio tiroedd Rhys ap Gruffydd, (yr Arglwydd Rhys). Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr y Brenin Rhisiart II o Loegr, a fyddai'n ddiweddarach y brenin Harri IV o Loegr.

Fe sylweddolodd fod gormes Lloegr yn difa'r economi Gymreig ac yn sbarduno atgasedd at y Saeson.

Ym mis Medi 1400, flwyddyn ar ol i Harri feddianu gorsedd Lloegr, dechreuodd ffrae rhwng Glyndŵr a'i gymydog Reynold, yr Arglwydd Grey o Ruthun, a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Ar Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi 1400) llosgodd Glyndŵr dref Rhuthun i gyd i lawr, heblaw'r castell. Priododd Margaret Hanmer, a oedd yn ferch i Syr David Hanmer, ac yn aelod o deulu a oedd yn garedig i'r boblogaeth leol, ac am gyfnod fe fu Owain yn dilyn bywyd tawel heddychlon.

Ffurfiodd gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Gaergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402.

Taflen Cynnwys

[golygu] Bywgraffiad

[golygu] Ei Fywyd Cynnar

Fe'i ganwyd i deulu cefnog yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ei dad Gruffydd Fychan yn etifedd i dywysogion Powys Fadog. Bu farw ei dad rywbryd cyn [[1370] gan adael ei fam Elen ferch Tomos ap Llywelyn o Ddeheubarth yn weddw. Mae'n debyg bod Owain wedi treulio rhywfaint o'i blentyndod yng nghartref Syr David Hanmer. Bu yn Llundain yn astudio'r gyfraith am rai blynyddoedd. Mae'n bur debyg ei fod yn Llundain adeg Gwrthryfel y Werin yn 1381.

[golygu] Cwymp Richard II a'r Gwrthryfel Cymreig

[golygu] Yr Anghydfod Gyda De Grey

[golygu] Y Gwrthryfel, 1400 - 1415

Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad
Ehangwch
Llun enwog A.C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad

[golygu] 1400

Ar 16 Medi, 1400, gweithredodd Owain, a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr. Roedd hyn yn ddatganiad chwyldroadol ynddo ei hun. Ymledodd yr ymyrch drwy'r gogledd-ddwyrain. Erbyn 19 Medi, ymosodwyd ar Ruthun, cadarnle de Grey, a bu bron iawn iddo gael ei dinistrio. Ymosodwyd ar Ddinbydh, Rhuddlan, castell y Fflint, Penarlag, a Holt yn fuan ar ôl hynny. Ar 22 Medi cafodd dref Croesoswallt ei difrodi mor ddrwg gan gyrch Owain fel y bu rhaid ei ail-siarteru yn ddiweddarach. Erbyn y 24ain, roedd Owain yn symud i'r de trwy Bowys a dinistriodd y Trallwng. Ar yr un pryd lawnsiodd y brodyr Tudur, o Benmynydd ar ynys Môn, gyfres o ymosodiadau "guerilla" yn erbyn y Saeson. Roedd y Tuduriaid yn deulu blaenllaw o Fôn ac wedi mwynhau perthynas agos â Rhisiart II (bu Gwilym a Rhys ap Tudur yn gapteiniaid saethwyr bwa yn ystod ymgyrchoedd Rhisiart yn Iwerddon). Newidiasant eu teyrngarwch i Owain Glyndŵr wrth i'r rhyfel ymledu.

Troes Harri IV - oedd ar ei ffordd i geisio goresgyn yr Alban - ei fyddin o gwmpas ac erbyn 26 Medi roedd wedi cyrraedd Amwythig ac yn barod i ymosod ar Gymru. Mewn cyrch cyflym ond difudd arweiniodd Harri ei fyddin o amgylch gogledd Cymru. Cafodd ei boeni'n gyson gan dywydd drwg ac ymosodiadau guerilla gwŷr Glyndŵr. Erbyn 15 Hydref, roedd yn ôl yn Amwythig, heb fawr i'w ddangos am ei ymdrechion.

[golygu] 1401

[golygu] 1402

[golygu] 1403

[golygu] 1404

Cynhaliwyd cynnulliad ym Mhennal, ger Machynlleth ym mis Mawrth, 1406, ac yno lluniwyd dogfen yn gosod allan bwriadau'r tywysog ynghyd â llythyr i'r Brenin Siarl VI o Ffrainc; adnebyddir y dogfennau pwysig hyn fel Polisi Pennal.

[golygu] Marw Owain

[golygu] Yr Adladd

[golygu] Yr Etifeddiaeth

[golygu] Ffuglen

[golygu] Llyfryddiaeth

  • D. Helen Allday, Insurrection in Wales (Lavenham, 1981)
  • A.G. Bradley, Owen Glyndwr and the Last Struggle for Welsh Independence (Efrog Newydd, 1902)
  • R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995). ISBN 0198205082
  • Elissa R. Henken, National Redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh Tradition (Caerdydd, 1996). ISBN 070831290
  • J.E. Lloyd, Owen Glendower
  • T.Mathews, Welsh Records in Paris (Caerfyrddin, 1910).

[golygu] Dolennau Allanol

Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com