Bodensee
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llyn mawr ar Afon Rhein rhwng yr Almaen, y Swistir ac Awstria yw'r Bodensee (Almaeneg Bodensee, Ffrangeg Lac de Constance). Mae ganddo arwynebedd o 536km2. Mae'r llyn yn cynnwys tair ynys fawr, Ynys Mainau, Ynys Reichenau ac Ynys Lindau, ynghyd â nifer o ynysoedd llai. Fe'i lluniwyd yn ystod Oes yr Iâ gan rewlif y Rhein.
Daw ei enw oddiwrth enw'r pentref Bodman ar ben gogledd-orllewinol y llyn. Ffurfiau cynharach ar ei enw yw Bodmansee a Bodansee. Mae llawer o ieithoedd Ewropeaidd yn defnyddio enwau ar y llyn (megis Ffrangeg Lac de Constance, Saesneg Lake Constance, Eidaleg Lago di Costanza, Portiwgaleg Lago de Constança, Sbaeneg Lago de Constanza) sy'n tarddu oddiwrth enw Konstanz, dinas fwyaf ar lan y llyn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.