Yr Horn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Penrhyn mwyaf deheuol De America yw'r Horn ( 55° 59' lledred deheuol, 67° 16' hydred gorllewinol). Y pobl cyntaf yn hwylio rownd yr Horn oedd Willem Cornelis Schouten a Jacob Le Maire, morwyr o'r Iseldiroedd ar 26 Ionawr, 1616 a felly enwyd ar ôl y tref ble ganwyd Schoutens, Hoorn yn yr Iseldiroedd.
Does yr Horn dim ar cyfanfir De America ond ar Ynys Hornos sydd yn perthyn i Tierra del Fuego. Penhryn mwyaf deheuol y cyfandir yw gorynys Brunswick sydd tua 260km i'r gogledd.
Cyn i adeiladu Camlas Panamá (agorwyd ym 1914) roedd rhaid fynd o gwmpas yr Horn pan yn teithio o Gefnfor Iwerydd i'r Cefnfor Tawel - neu i'r gwrthwyneb - ar llong, heblaw am fynd o gwmpas Penhryn Gobaith Da ac Asia. Beth bynnag, roedd hwylio rownd yr Horn yn beryglus iawn am fod y wynt o'r gorllewin yn cryf iawn a'r tonnau yn uwch a felly roedd pawb yn ei ofni, yn bennaf pan yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin. Roedd llawer o longau yn hwylio trwy Culfor Magallanes i'r gogledd Tierra del Fuego i osgoi'r Horn, ond roedd hwylio trwy'r culfor yn cymryd llawer o amser.