Y Môr Baltig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Môr rhwng Scandinafia a gwledydd cyfandir Ewrop yw'r Môr Baltig. Mae cyswllt o Fôr y Gogledd i'r Môr Baltig trwy Skagerrak a Kattegat, culforoedd rhwng Denmarc, Norwy a Sweden. Mae maint ei wyneb yn 413.000 km² a mae hi'n cynnwys 21.600 km³ o ddŵr. Gan dyfnder cyfartalog o 52m a lle mwyaf dwfn o 459m mae e'n fôr bas iawn. Hefyd, does dim ond 1 % o halen mewn dŵr y môr hwn, llai nag mewn moroedd eraill.
Y gwledydd ac ardaloedd o gwmpas y Môr Baltig yw Sweden, y Ffindir, Ffederasiwn Rwsia, Estonia, Latfia, Lithuania, Kaliningrad Oblast (clofan bychan Ffederasiwn Rwsia), Gwlad Pwyl, yr Almaen a Denmarc. Gylffiau mawr yw Gwlff Bothnia rhwng Sweden a'r Ffindir, Gwlff y Ffindir rhwng y Ffindir a'r gwledydd Baltaidd a Gwlff Riga rhwng Estonia a Latfia. Ynysoedd mawr yw Gotland ac Öland (Sweden), Åland (y Ffindir), Hiiumaa a Saaremaa (Estonia), ac ynysoedd Denmarc niferus, e.e. Bornholm, Sjælland a Fyn. Mae Åland yn dalaith annibynnol a heb arfau yn y Ffindir. Mae'r bobl sydd yn byw ar yr ynys yn siarad Swedeg a mae baner sydd yn wahanol iawn i un y Ffindir gan yr ynys. Mae'n aelod-gwladwriaeth annibynnol yng Nghyngor y Gogledd (Nordic Council).
Mae'n bosib mynd trwy afonydd a chamlesi i'r Afon Volga yn Rwsia, yn ogystal a'r Môr Gwyn, Môr Du, Môr Asov a Môr Caspia.
Mae'r Môr Baltig yn enwog am ei ambr.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Pwyleg) (Saesneg) (Almaeneg) Môr Baltig
- (Pwyleg) (Saesneg) (Almaeneg) Môr Baltig