Porthmadog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Porthmadog Gwynedd |
|
Tref yng Ngwynedd yw Porthmadog sydd ar aber Afon Glaslyn. Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Datblygodd Porthmadog ar ôl i W. A. Madocks, Aelod Seneddol dros Boston Lodge yn Lloegr, adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir amaethyddol o'r môr. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, Rheilffordd Ffestiniog i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y diwydiant llechi collodd y porthladd ei bwysigrwydd. Adeiladwyd y llong olaf yno yn nechrau'r 20ed ganrif.
[golygu] Y dref heddiw
Bellach, tref dwristaidd yw hi. Fe'i gelwir yn aml yn "Fynedfa i Eryri" oherwydd ei safle daearyddol. Mae Rheilffordd Ffestiniog sy'n cario ymwelwyr o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, yn boblogaidd iawn.
[golygu] Enwogion
- Eliseus Williams (Eifion Wyn), bardd; cafodd ei eni yn Mhorth ar yr 2 Mai, 1867.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthmadog ym 1987. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Porthmadog 1987
[golygu] Atyniadau eraill
Mae'r pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog.
Trefi a phentrefi Gwynedd |
Abermaw | Y Bala | Bangor | Bethesda | Blaenau Ffestiniog | Caernarfon | Cricieth | Dolgellau | Ffestiniog | Harlech | Llanberis | Porthmadog | Pwllheli | Tywyn |