Dolgellau
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Poblogaeth | 2,678 (cyfrifiad 2001) |
Cyngor Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Heddlu | Heddlu Gogledd Cymru |
Etholaeth | Meirionnydd Nant Conwy |
Mae Dolgellau yn dref farchnad yn ne Gwynedd, ger mynydd Cadair Idris (neu Gader Idris, fel y'i elwir yn lleol). Mae afon Wnion, isafon y Fawddach yn llifo trwy’r dref.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes ac economi
Cyn y cyfnod Rhufeinig yr oedd yr ardal y mae Dolgellau yn sefyll ynddi yn rhan o diroedd yr Ordofigiaid, sef llwyth a orchfygwyd gan y Rhufeinwyr yn OE 77/78. Er y darganfuwyd ychydig o darnau arian o gyfnodau yr Ymherodwyr Hadrian a Traian ger Dolgellau, mae’r ardal yn gorsog ac nid oes tystiolaeth iddi gael ei chyfanheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Serch hynny, saif tair o fryngaerau ger Dolgellau, er na wyddys yn sicr pwy a'u adeiladodd.
Wedi i’r Rhufeiniaid adael, daeth yr ardal dan rheolaeth cyfres o benaethiaid Cymreig, ond mae’n debyg na fodolodd trigfa sefydledig yno tan ddiwedd y 11eg neu ddechrau’r 12fed ganrif, pan y’i sefydlwyd yn faerdref, o bosibl gan Gadwgan ap Bleddyn. Tref o daeogion yw maerdref, ac ni newidiwyd y statws hwn ar y Ddolgellau tan deyrnasiad Harri’r VII (1485-1509).
Adeiladwyd eglwys rywbryd yn y 12fed ganrif (fe’i chwalwyd a disodli gan yr adeilad presennol ym 1716), er mai Abaty Cymer, a sefydlwyd ym 1198 yn Llanelltyd, oedd y ganolfan grefyddol bwysicaf yn wreiddiol. Dechreuodd pwysigrwydd Dolgellau dyfu yn y cyfnod hwn ac fe’i chrybwyllwyd ym Mesuriad Tir Meirionydd, a archebwyd gan Edward I (ni chrybwyllwyd Llanelltyd). Ym 1404 cynhaliwyd cyngor penaethiaid yno gan Owain Glyndŵr.
Wrth i George Fox ymweld a’r dref ym 1657, daeth llawer o drigolion Dolgellau i fod yn Grynwyr. Oherwydd erledigaeth ymfudodd llawer ohonynt i Bennsylfania ym 1686, dan arweiniant Rowland Ellis, ffermwr bonheddig lleol. Enwyd tref Bennsylfaenig Bryn Mawr ar ôl fferm Ellis, ger Dolgellau.
Datblygodd y diwydiant gwlân yn Nolgellau i fod o’r pwysigrwydd eithaf i’r economi lleol; erbyn diwedd y 18fed ganrif cyfrifwyd bod gwerth blynyddol £50,000 i £100,000 ar allgynnyrch gwlân Dolgellau. Serch hynny, dechreuodd y diwydiant ddirywio yn hanner cyntaf y 19eg ganrif oherwydd dyfodiad y gwŷdd mecanyddol. Cyfrannydd arall i economi Dolgellau, er yr un cyfnod, oedd barcio; parhaodd hyn tan y 1980au, er ar radd llawer iawn llai.
Pan ddarganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 19eg ganrif, brysiodd llwyth o ymchwilwyr yno. Ar un pryd cyflogwyd mwy na 500 o weithwyr yn y pyllau aur lleol. Pery hyn ar radd llawer iawn llai hyd heddiw ym mhyllau aur Gwynfynydd, un o ffynonellau prin aur Cymru.
Heddiw mae economi Dolgellau yn dibynnu'n bennaf ar dwristiaeth (gweler isod, er bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan o hyd; cynhelir marchnad ffermwyr yng nghanol y dref bob mis.
[golygu] Yr enw "Dolgellau"
Ni wyddys dim yn sicr am darddiad enw Dolgellau. Mae’n debyg y tardd o eiriau “dol” a “gelli”, er y awgrymwyd deilliannau megis “dol cellïau” neu “dol cellau [mynachod]” hefyd; oherwydd hanes yr enw, fodd bynnag, nid yw rhain mor debygol.
"Dolkelew" yw’r sillafiad cynharaf a wyddys amdano (1253, Mesuriad Tir Meirionnydd), ond gwelir sillafiad "Dolgethley" ym 1285 (mae’r thl yn sicr yn gais i gynrychioli’r sain Gymraeg [ɬ]). Wedi hynny tan y 19eg ganrif, gwelir sillafiadau megis "Dolgelley", "Dolgelly" neu "Dolgelli" (ysgrifennodd Owain Glyndŵr "Dolguelli"). Defnyddiodd Thomas Pennant y ffurf "Dolgelleu" yn ei lyfr Tours of Wales, a dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1723, ond nid oedd y ffurf hon fyth yn gyfredol iawn. Yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1825 defnyddir y ffurf "Dolgellau", a mabwysiadodd Robert Vaughan o Hengwrt y ffurf hon ym 1836; mae’n bosibl y mae’r ffurf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth mai "Dol Cellau" yw tarddiad yr enw. Hwn yw'r sillafiad safonol heddiw yn y Gymraeg a'r Saesneg, ond fe'i dderbyniwyd yn gynharaf yn y naill iaith na'r llall: "Dolgellau" a ysgrifennodd Islwyn Ffowc Elis ym 1949 yng Ngysgod y Cryman, ond parhaodd y sillafiad "Dolgelley" ar arwyddion ffordd tan yn ddiweddar iawn.
[golygu] Cysylltiadau llenyddol
Yn Nolgellau mae awdur Marion Eames yn byw, a ysgrifennodd lyfr Y Stafell Ddirgel yn seiliedig ar hanes y Crynwyr a ymfudodd o Ddolgellau ym 1686.
Cadwodd Robert Vaughan (1592-1667) lyfrgell helaeth yn Hengwrt, ger Dolgellau, yn cynnwys trysorau fel Llyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llawysgrif Hengwrt.
[golygu] Atyniadau lleol
Atynna ardal Dolgellau filoedd o dwristiaid bob flwyddyn oherwydd harddwch naturiol yr ardal. Daw rhan helaeth ohonynt er mwyn cerdded, heicio, marchogi, rafftio a dringo, yn enwedig ar lethrau Cader Idris.
Agorwyd gorsaf trên Dolgellau – yn rhan o’r Great Western Railway - ym 1868. Caewyd y rheilffordd yn y 1960au gan Dr Beeching. Heddiw rhed "Llwybr Mawddach", sef llwybr i gerddwyr a beicwyr, ar hyd yr hen reilffordd.
Mae atyniadau hanesyddol yn cynnwys gweddillion Abaty Cymer, tua hanner milltir o'r dref. Mae hefyd arddangosfa am y Crynwyr yn y Canolfan Croeso, yn ogystal â mynwent Crynwyr yn y dref. Yn Ninas Mawddwy, sef pentref ger Dolgellau, mae cae o’r enw Camlan a gysylltir a'r Brenin Arthur (yn seiliedig ar grybwylliad yr enw yn yr Annales Cambriae).
[golygu] Digwyddiadau diwylliannol
Er 1992 cynhelir gŵyl cerddoriaeth byd "Sesiwn Fawr" yn Nolgellau. Fe’i chynhaliwyd yn wreiddiol ar strydoedd y dref, ond tyfodd yn rhy fawr i ganol Dolgellau. Er 2002 cymer le ar gyrion Dolgellau a chodir tâl am fynediad. Defnyddiwyd yr arian yn ddiweddar i atynnu perfformwyr megis Cerys Matthews, Super Furry Animals a Goldie Looking Chain. Daw torfeydd o dros 5,000 o bobl i Sesiwn Fawr yn flynyddol ac honnir bod yr ŵyl yn un o brif wyliau cerddoriaeth byd Ewrop. Er 1995 darlledir yr ŵyl ar BBC Radio Cymru ac er 1997 ar S4C.
Bob haf cynhelir hefyd Ŵyl Cefn Gwlad yn Nolgellau, sef cymysg o Sioe Amaethyddol a ffair. Mae mynediad am ddim ond rhoddir yr arian a godir yn y gwahanol stondiau i achosau elusengar.
Ym 1949 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ac yn fwy ddiweddar ym 1994 Eisteddfod yr Urdd.
[golygu] Gefeilldref
Gefeilliwyd Dolgellau â Guérande (Llydaweg: “Gwenrann]]), Llydaw.