Afon Glaslyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Glaslyn yn afon yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n tarddu yn Llyn Glaslyn yn uchel ar lethrau'r Wyddfa. Mae nifer o nentydd yn ymuno a hi o gwmpas yr Wyddfa, megis Nant Trawsnant, sy'n tarddu o Pen y Pass, a Nant Cynnyd. Llifa'r afon trwy ddau lyn, Llyn Gwynant a Llyn Dinas cyn cyrraedd pentref Beddgelert, lle mae Afon Colwyn yn ymuno a hi ynghanol y pentref. Wedi llifo hebio bedd (honedig) Gelert, mae'r afon yn cyrraedd Aberglasyn, lle mae'n llifo'n gyflym trwy gwm cul.
Ar ôl Aberglaslyn mae'r afon yn llifo yn llawer arafach trwy diroedd gwastad cyn cyrraedd Tremadog a chyrraedd y môr ym Mhorthmadog. Ar un adeg yr oedd yr afon yn cyrraedd y môr yn Aberglaslyn, hyd nes adeiladwyd y Cob ym Mhorthmadog i ad-ennill y tir ar gyfer amaethyddiaeth. Ym Mhorthmadog mae'r afon yn rhedeg trwy ddorau sy'n rheoli'r llif.