Jan Hus
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Athronydd a diwygiwr crefyddol Tsiecaidd oedd Jan Hus (tua 1369–71 - 6 Gorffennaf 1415). Roedd yn offeiriad ac am gyfnod yn rector Prifysgol Siarl, Prag. Roedd yr Eglwys Babyddol yn ystyried ei ddysgeidigaethau yn heresi, ac felly fe'i hesgymunwyd ac a'i losgwyd wrth y stanc ym 1415. Mae ei ysgrifeniadau sylweddol yn llunio rhan bwysig o lenyddiaeth Tsieceg y Canol Oesoedd. Ystyrir fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd.
Dethlir gŵyl gyhoeddus ar 6 Gorffennaf, diwrnod ei ddienyddiad, yn y Weriniaeth Tsiec er parch iddo.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.