Castell Biwmares
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Castell yn nhref Biwmares, Sir Fôn yw Castell Biwmares (o'r Normaneg/Ffrangeg Beau Mareys). Cafodd ei gynllunio gan James o St James yn gastell consentrig gyda ffos o'i gwmpas. Fe'i hadeiladwyd gan Edward I, Brenin Lloegr, yn 1295, ar ôl gwthryfel Madog ap Llywelyn. Am ryw reswm chafodd y castell byth ei gwblhau. Mae'r castell yng ngofal Cadw ac, fel un o gestyll gogledd Cymru, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986.