Madog ap Llywelyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arweinydd y gwrthryfel Cymreig (1294-1295), a elwir weithiau Gwrthryfel Madog.
Roedd Madog ap Llywelyn yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd. Bu'n wrthwynebus i bolisïau Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, cyn y goncwest. Mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ac arweiniodd y Cymry, oedd wedi'u digio gan drethi newydd a thelerau Statud Rhuddlan (1284), mewn cyfres o ymosodiadau ar filwyr Edward I o Loegr. Uchafbwynt y gwrthryfel oedd yr ymosodiad ar dref a chastell Caernarfon yn 1294. Bu Madog a'i ddilynwyr yn weithgar yn y Canolbarth, ym Môn ac yn y Berfeddwlad hefyd, yn arbennig yn arglwyddiaeth Dinbych.
Mewn ymateb daeth Edward I i ogledd Cymru, gan gyrraedd Castell Conwy ar Ŵyl San Steffan 1294, ond i gael ei hun dan warchod yno am ddeg diwrnod ym mis Ionawr. Adferodd y brenin ei awdurdod serch hynny ond parhaodd y gwrthryfel am gyfnod. Yna, pan oedd ef a'i wŷr ar eu ffordd i lawr i Bowys yn 1295, cafodd ei drechu gan Iarll Warwig ym mrwydr Maes Meidiog.
Ildiodd Madog ar ddiwedd 1295. Ni wyddys beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Cymerodd y Saeson 74 o wystlon o Sir Gaernarfon a Meirionnydd i sicrhau heddwch ar ôl i'r gwrthryfel ddarfod ond nid yw enw Madog yn eu plith.
[golygu] Llyfryddiaeth
- J.G. Edwards, "The Battle of Maes Meidiog and the Welsh Campaign of 1294-95", yn The English Historical Review (cyf. xxxix, 1924)
- John Griffiths, "The Revolt of Madog ap Llywelyn, 1294-5", yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (cyf. 16, 1955)
- J.E. Morris, The Welsh Wars of Edward I (1901)