Biwmares
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Biwmares Ynys Môn |
|
Mae Biwmares yn dref yn ne-ddwyrain Ynys Môn.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd Biwmares ar safle hen bentref Llan-faes. Wedi concwest 1282-83 gan Edward y Cyntaf, bu gychwyn nifer o brosiectau gan y brenin i roi diwedd ar y Cymry. Un o'r prosiectau hyn oedd adeiladu Castell Biwmares a'r dref ei hun.
Symudwyd trigolion Llan-faes i bentref newydd yng ngorllewin yr ynys yn y "New Borough" a ddaeth i gael ei alw yn Niwbwrch. Wedi hyn, Saeson yn unig oedd yn cael trigo tu fewn i waliau'r dref. Gyda adeiladu'r castell daeth Biwmares i fod yn brif dref Sir Fôn ac yn yr ail ganrif ar bymtheg agorwyd y Llys Sirol yno, a bu hwn mewn defnydd hyd y 1970au.
Yn 1829 adeiladwyd carchar ym Miwmares. O safonau'r dydd roedd y carchar hwn yn beth gyfforddus. Roedd toiled a golau nwy ym mhob cell, sydd yn hynod o fodern, gan ystyried fod carcharorion Strangeways ym Manceinion yn dal i ddefnyddio bwced yn y 1970au.
Dienyddwyd dau garcharor yn y carchar rhwng 1829 a'r 1870au pan gaewyd y carchar a'i newid i fod yn orsaf heddlu. Ym 1830 dienyddwyd William Owen am ladd ei wraig, ac yn ôl yr hanes aeth i'r crogbren dan gicio a strancio ac fe'i claddwyd y tu fewn i furiau'r carchar. Ni ddienyeddwyd neb wedyn tan 1862 pan ddienyddwyd Richard Rowlands (Dic Rolant) am ladd ei dad yng nghyfraith. Bu cryn ddadlau am yr achos ac mae nifer o bobl hyd heddiw yn credu fod Rolant yn ddi-euog. Mae chwedl amdano sy'n dweud ei fod wedi addo ar y crogbren y byddai cloc yr eglwys, dros ffordd i'r wal oedd yn dal y crogbren, yn dweud yr amser anghywir.
[golygu] Biwmares heddiw
Nid yw Biwmares mor bwysig y dyddiau hyn, gan fod sedd cyngor yr ynys wedi symud i Langefni. Wedi dweud hynna, mae Biwmares yn dal i fod yn un o prif benteithiau twristiaeth Môn, yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn gyrchfan ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn.
Yn Eglwys Biwmares mae beddrod y Dywysoges Siwan, ferch y brenin John o Loegr a gwraig Llywelyn Fawr, i'w weld. Cafodd ei symud yno o adfeilion mynachlog Llan-faes.
Mae yna nifer o dai bwyta o safon, tafarndai clyd ac ambell i siop sy'n gwerthu gemwaith a hen bethau. Mae'r ysgol yn un o rai mwyaf y sir.
Trefi a phentrefi Môn |
Amlwch | Benllech | Biwmares | Caergybi | Llanfairpwllgwyngyll | Llangefni | Niwbwrch | Porthaethwy |