Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions Brenhinllin y Tang - Wicipedia

Brenhinllin y Tang

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Tseina dan Frenhinllin y Tang (melyn) a rhai o'i chyngreiriaid a'i gelynion, c. 660.
Ehangwch
Tseina dan Frenhinllin y Tang (melyn) a rhai o'i chyngreiriaid a'i gelynion, c. 660.

Dilynodd Brenhinllin y Tang (唐朝) (18 Mehefin, 618 – 4 Mehefin, 907) Frenhinllin y Sui a rhagflaenodd Gyfnod y Pump Brenhinllin a'r Deg Teyrnas yn Tsieina. Cafwyd bwlch yn y frenhinllin yn ystod Ail Frenhinllin y Zhou (16 Hydref, 690 – 3 Mawrth, 705) pan gipiodd Yr Ymerodres Wu Zhao yr orsedd. Sefydlasid y frenhinllin gan y teulu Li (李).

Prifddinas y frenhinllin oedd Chang'an (Xi'an heddiw), dinas fwyaf y byd ar y pryd. Mae Brenhinllin y Tang yn cael ei hystyried fel un o uchafbwyntiau gwareiddiad Tseina, yn fwy felly na Brenhinllin yr Han, efallai. Roedd ei thiriogaeth yn fwy na thiriogaeth yr Han and yn dod yn agos i hynny Brenhinllin yr Yuan a Brenhinllin y Qing.

[golygu] Hanes

Sefydlwyd y frenhinllin gan yr Ymherodr Li Yuan ond byr fu ei deyrnasiad ac fe'i disodlwyd gan ei fab Li Shimin, a adnebyddir fel "Tang Taizong". Ar ôl cipio'r orsedd ceisiodd Taizong ddatrys rhai o'r problemau mewnol oedd wedi bod yn bla ar lywodraeth y wlad hyd hynny. Roedd ganddo dair adran weinyddol (省, shěng), oedd yn fod i lunio, adolygu ac yna weithredu, y polisïau newydd. Roedd yna yn ogystal chwech is-adran (部, ) i wneud y gwaith ymarferol. Yn nghyfnod y Tang hefyd gorseddwyd yr Ymerodres Wu Zetian, yr unig ddynes i reoli'r wlad yn ei rhinwedd ei hun, er bod merched eraill wedi dwyn yr awenau o bryd i'w gilydd yn hanes Tseina.

Gorllewinwr ar gefn camel, Brenhinllin y Tang, Amgueddfa Shanghai.
Ehangwch
Gorllewinwr ar gefn camel, Brenhinllin y Tang, Amgueddfa Shanghai.

Mae'r 7fed ganrif a'r 8fed ganrif yn cael eu hystyried fel uchafbwynt Brenhinllin y Tang. Dan yr Ymherodr Xuan Zong mwynhaodd Tsieina ei Oes Aur. Ymledodd awdurdod yr ymerodraeth mor bell â Siapan a Corea yn y dwyrain, Indo China yn y de, i Affganistan, ardaloedd Canolbarth Asia a hyd at Môr Caspia a Môr Aral yn y gorllewin. Roedd Kashmir dan ei nawdd yn ogystal ac roedd yn rheoli mynyddoedd y Pamir.

Ymhlith y gwledydd a dalai teyrnged, mewn enw o leiaf, oedd Kashmir, Nepal, Viet Nam, Corea a Siapan. Cyfarchai penaethiaid nomadaidd y gorllewin tu hwnt i'r Mur Mawr Ymherodr y Tang fel "Tian Kehan" (y Khan Nefol) (天可汗).

Gelwir y cyfnod hwn weithiau yn Gyfnod yr Heddwch Tsieineiadd Pax Sinica. Dyma Oes Aur Llwybr y Sidan, a oedd yn amser llewyrchus yn hanes Sogdiana. Roedd y brifddinas, Chang'an, yn ddinas gosmopolitaidd. Roedd miloedd o estronwyr yn byw yno, yn cynnwys Turciaid, Persiaid, Indiaid, Siapanwyr, Coreiaid a Malaiaid.

Ond daeth tro ar fyd yn sgîl Gwrthryfel An Lushan, a ddifethodd lawer o'r cynnyrch a wnaed cyn hynny. Cafodd y frenhinllin ei gwanhau'n ddifrifol ac ni welwyd yr Oes Aur eto. Yn y diwedd cafodd y frenhinllin ei gyrru allan o Ganolbarth Asia ar ôl Brwydr Talas, ac nid adferwyd rheolaeth Tseina yn y rhanbarth tan gyfnod yr arweinyddiaeth Fongolaidd (Brenhinllin y Yuan.

Tua diwedd y cyfnod, roedd llywodraethwyr milwrol rhanbarthol (y jiedushi) yn dechrau torri'n rhydd o'r awdurdod canolog ac yn dechrau gweithredu ar eu liwt eu hunain. Yna, yn 907, ar ôl cyfnod o dri chan mlynedd bron mewn grym, daeth y frenhinllin i ben pan ddisodlodd un o'r llywodraethwyr hynny, Zhu Wen, yr ymherodr olaf gan gychwyn y cyfnod olynol a adnebyddir fel Cyfnod y Pump Brenhinllin a'r Deg Teyrnas.

[golygu] Diwylliant y Tang

Print bloc pren o ran o Sŵtra'r Diemwnt, O.C. 868
Ehangwch
Print bloc pren o ran o Sŵtra'r Diemwnt, O.C. 868

Dan ysbardun cysylltiadau ag India a'r Dwyrain Canol, ffynnodd diwylliant mewn sawl maes. Parhaodd Bwdhaiaeth i flodeuo (fe'i sefylwyd yn Tseina yng nghyfnod Confucius), a throes y teulu ymherodrol ati; o ganlyniad fe'i Tsienïeigwyd yn gyfangwbl a daeth yn rhan ganolog o ddiwylliant y wlad, er gwaethaf mesurau a gymerwyd yn erbyn y mynachdai grymus yn ystod y 10fed ganrif. Dyma Oes Aur Bwdhaiaeth yn Tsieina. Roedd argraffu â blociau pren yn ymledu hefyd a daeth y gair printiedig yn rhan o brofiad beunyddiol mwy a mwy o bobl.

Ystyrir cyfnod y Tang fel Oes Aur llenyddiaeth Tsieinaeg a chelfyddyd Tseina yn ogystal. Roedd gan y llywodraeth system o ethol gweision sifil trwy arholiad a oedd yn cynnal dosbarth mawr o ysgolheigion ac ysgrifenwyr, llawer ohonynt yn ddilynwyr Confucius. Y bwriad oedd denu'r ysgolheigion gorau i mewn i'r weinyddiaeth. Roedd hynny yn ogystal yn fodd i leihau dylanwad y teuluoedd aristocrataidd grymus a'r penaethiaid rhyfel lled-annibynnol a fygythai sefydlogrwydd y wlad. Datblygodd y swyddogion dysgedig i fod yn ddosbarth nerthol a oedd yn mwynhau statws arbennig yn eu cymunedau, yn creu cysylltiadau teuluol â'i gilydd, ac yn cyfrannu o werthoedd y llys ymherodrol. Hyd at ddiwedd yr ymerodraeth byddent yn parhau i fod yn ddolen hollbwysig rhwng y werin a'r llywodraeth.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Benn, Charles, China's Golden Age: Everyday Life in the Tang Dynasty (Rhydychen, 2002). ISBN 0-19-517665-0
  • Schafer, Edward H., The Golden Peaches of Samarkand: A study of T’ang Exotics (Berkeley a Los Angeles, 1963; clawr papur, 1985). ISBN 0520054628
  • Schafer, Edward H.,The Vermilion Bird: T’ang Images of the South (Berkeley and Los Angeles, 1967)
  • de la Vaissière, E, Sogdian Traders (Leiden, 2005). ISBN 9004142525

Static Wikipedia (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu

Static Wikipedia February 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu