Berlin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prif Ddinas yr Almaen a dinas fwyaf y wlad gyda 3,389,450 o drigolion (2002) yw Berlin. Mae ar lannau yr afonnydd Spree a Havel a mae'n dalaith (Bundesland) yn ogystal a dinas. Mae yng nghanol y talaith Brandenburg.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Ar ôl bod yn rhan o'r Mark Brandenburg, daeth Berlin yn dalaith ei hun ym 1920. Klaus Wowereit yw'r Regierender Bürgermeister ("maer llywodraethol", Klaus Wowereit ar hyn o bryd. Gweler Meiri Berlin).
Tan 1 Ionawr 2001 roedd 23 bwrdeistref yn y dref ond nawr does ond 12..
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y dref tua 1200, ond roedd hi'n dwy drefi ar y bryd: Berlin a Köln. Daethon nhw yn un dref ym 1307. Beth bynnag, er fod Berlin yn dref eithaf hen, mae'n bennaf olion y deunawfed ganrif i'w weld.
Roedd llys brenhinoedd Prwsia yn Berlin, ond dechreuodd y dref tyfy'n gyflym ym pedwaredd ganrif ar bymtheg ar ôl dod yn prif ddinas yr Ymerodraeth Almaenig ym 1871. Roedd hi'n brif ddinas yn ystod Gweriniaeth Weimar a rheolaeth y Natsi a chafodd ei ddinistio yn ystod yr Ail Rhyfel y Byd.
Ar ôl y Rhyfel, rhanwyd y ddinas yn ddwy. Roedd y rhan ddwyreiniol yn brif ddinas Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (Dwyrain yr Almaen), ond prif ddinas Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen) oedd Bonn.
Roedd Gorllewin Berlin yn rhan o Orllewin yr Almaen, ac felly yn ynys yn nhiriogaeth Dwyrain yr Almaen. O ganlyniad, roedd hi'n bwysig yn ystod y Rhyfel Oer. Ar 26 Mehefin 1948 dechreuodd gwarchae Berlin ac ar ôl hynny awyrglydiad Berlin. Ar 13 Awst 1961 cafodd Mur Berlin ei codi.
Syrthiodd y mur ar 9 Tachwedd, 1989. Erbyn uniad yr Almaen y flwyddyn ddilynol doedd dim ond o olion y mur i'w weld.