Undeb Celtaidd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae'r Undeb Celtaidd yn fudiad gwleidyddol sydd yn cefnogi ac yn lledaenu gwybodaeth am ymgyrchoedd mudiadau cenedlaethol a mudiadau iaith y chwe gwlad Geltaidd sef Cymru, Yr Alban, Llydaw, Iwerddon, Cernyw, a Manaw. Fe'i sefydlwyd ym 1961. Mae'r Undeb yn cyhoeddi'r cylchgrawn chwarterol 'Carn'.
Ni ddylid drysu rhwng yr Undeb Celtaidd, a'r Gyngres Geltaidd, sydd yn fudiad diwylliannol, na'r Cynghrair Celtaidd, sydd yn gystadleuaeth rygbi.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Canghennau
Mae cangen ym mhob un o'r chwe gwlad Geltaidd, a hefyd canghennau yn yr UDA, yn Lloegr/Llundain, ac mae cangen ryngwladol. Yn Saesneg, mae'n arfer defnyddio enwau'r gwledydd yn yr ieithoedd Celtaidd wrth gyfeirio at y canghennau cenedlaethol.
- Breizh
- Kernow
- Éire
- Manaw
- Yr Alban
- Cymru
[golygu] Ysgrifenyddion Cyffredinol yr Undeb Celtiadd
- Alan Heusaff†: (1961-84), B->É
- J. Bernard Moffat: (1984-88), M
- Davyth Fear: (1988-90), K->C
- Séamas Ó Coileáin†: (1990-91), É
- J. Bernard Moffat: (1991-2006), M
- Rhisiart Tal-e-bot: (2006 - pres.), C->K
[golygu] Golygyddion Carn (Sefydlwyd 1973)
- Frang MacThòmais: (1973-74), A
- Padraig Ó Snodaigh: (1974-77), É
- Cathal Ó Luain: (1977-81), É
- Pedyr Pryor: (1981-84), K
- Pat Bridson: (1984 - pres.), M->É
(Mae'r llythrennau ar ôl y dyddiadau yn dangos eu cenhedloedd - mae -> yn dangos yr rhai oedd wedi mynd i fyw i wlad Geltaidd arall.)