San Steffan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ardal o Lundain yw San Steffan sy'n cynnwys canolbwynt gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol. Yma ceir Plas San Steffan sy'n cynnwys Tŷ'r Arglwyddi a Tŷ'r Cyffredin. Ar hyd Heol y Neuadd Wen ('Whitehall') gerllaw ceir canolbwynt traddodiadol peirianwaith llywodraethu Lloegr a Phrydain - y gweinyddiaethau (yn cynnwys y Trysorlys) a Downing Street lle mae'r Prif Weinidog yn byw a gweithio.
Cyferbyn â Senedd San Steffan fe geir adeilad Abaty San Steffan, hen adeilad grefyddol sy'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif a lle mae llawer o gyn-frenhinoedd a -brenhinesau Lloegr wedi eu claddu. Hefyd yn yr ardal mae pencadlys Yr Heddlu Metropolitan yn 'New Scotland Yard', Neuadd Canolog y Methodistiaid, Canolfan Cynhadledd Brenhines Elisabeth yr Ail, a Cadeirlan Catholig San Steffan.
I'r gogledd mae Sgwâr Trafalgar, i'r gorllewin mae ardal gorsaf Fictoria a Palas Buckingham, i'r de mae Pimlico ac i'r dwyrain dros yr afon Tafwys mae Lambeth. Hen enw yr ardal yw 'Thorney Island', o'r dyddiau pan oedd y tir yn gorsiog ac yn anaddas ar gyfer adeiladu.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.