Pashto
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pashto yw iaith y Pataniaid, grŵp ethnig sy'n byw yn Affganistan a rhannau o ogledd-orllewin Pacistan. Mae'n perthyn i gangen Iranaidd y teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Mae Pashto yn un o ddwy iaith swyddogol Affganistan, ynghyd â Dari.
Rhennir yr iaith Pashto yn ddwy brif gangen neu dafodiaith, sef Pashto yn Affganistan a Pakhto ym Mhacistan. Ysgrifennir y ddwy ddafodiaith fel ei gilydd mewn gwyddor sy'n addasiad o'r wyddor Arabeg.