Nest merch Rhys ap Tewdwr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Merch Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (fl. 1100-1120).
Adwaenir Nest fel "Helen Cymru" oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.
Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerallt o Windsor. Un o'i feibion oedd Gerallt Gymro.
Ysgrifenwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu iddi dyfu.