Ebooks, Audobooks and Classical Music from Liber Liber
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z





Web - Amazon

We provide Linux to the World


We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Gerallt Gymro - Wicipedia

Gerallt Gymro

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Castell Maenorbŷr, lle ganwyd Gerallt Gymro
Ehangwch
Castell Maenorbŷr, lle ganwyd Gerallt Gymro

Roedd Gerallt Gymro (neu Giraldus Cambrensis yn Lladin) (c.1146- c.1223) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol. Ei enw bedydd oedd Gerald de Barri.

Taflen Cynnwys

[golygu] Teulu a blynyddoedd cynnar

Roedd Gerallt yn ysgolor mawr ac yn archddiacon Brycheiniog. Fe'i ganwyd yn 1146 yng nghastell Maenor Bŷr, Sir Benfro yn fab i Angharad, merch Nest (fl.1100-1120), merch Rhys ap Tewdwr) a William de Barri, arglwydd Normanaidd Ynys y Barri.

Roedd ei ewythr Dafydd, yn esgob Tyddewi, a phan fu farw yn 1176 dewisodd y Cymry Gerallt i'w olynu, ond gwrthododd Archesgob Caer-gaint ei dderbyn gan benodi Sais yn ei le. Dyna un rheswm pam yr oedd Gerallt yn gobeithio y byddai'r Cymry yn gallu herio awdurdod Caer-gaint.

[golygu] Y Daith Trwy Gymru

Yn 1176 roedd Baldwin, Archesgob Caer-gaint, am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r Groesgad ac i ymweld ag eglwysi cadeiriol Cymru i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru).

Dechreuodd y daith yn Henffordd; aethon nhw wedyn drwy Ddyffryn Wysg i'r Fenni, ac yna trwy Frynbuga i Gaerlleon. Aethant yn eu blaenau i eglwys gadeiriol Llandaf, Abaty Margam, Cydweli a Caerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf ac wedyn eglwys gadeirol Tyddewi. Teithio tua'r gogledd wedyn, i Ystrad Fflur a mynachlog Llanbadarn Fawr a chyrraedd y drydedd eglwys gadeiriol ym Mangor a'r bedwaredd yn Llanelwy. Ar ddiwedd y daith dychwelodd yr Baldwin i Loegr.

Ar y daith roedd tua tair mil o wŷr wedi addo ymuno yn y Groesgad, ond yn y diwedd ychydig iawn a aeth.

[golygu] Ysgolheictod

Roedd Gerallt yn ysgolhaig mawr yn ei oes. Astudiodd yn ysgol eglwys Sant Pedr yng Nghaerloyw, ym Mharis ac yn Lincoln. Yn ogystal â "Hanes y Daith trwy Gymru", ysgrifennodd sawl llyfr arall, i gyd mewn Lladin, gan gynnwys disgrifiad o Iwerddon (Topographia Hibernica) yn 1188, y Disgrifiad o Gymru (Descriptio Kambriae) rhwng 1193 a 1215, a'r Speculum Duorum, gwaith athronyddol, yn 1216. Ysfrifenodd hefyd Expugnatio Hibernica ("Cwncwest Iwerddon") a nifer o ysgrifau.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Topographia Hibernica (1188)
  • Expugnatio Hibernica ("Cwncwest Iwerddon")
  • Itinerarium Cambriae (1191)
  • Descriptio Cambriae ("Disgrifiad o Gymru", 1194)
  • De instructione principis
  • De rebus a se gestis
  • De iure et statu Menevensis ecclesiae
  • Gemma ecclesiastica
  • Speculum ecclesiae
  • Symbolum electorum
  • Invectiones
  • Retractationes
  • Vita sancti Hugonis Lindensis
  • Vita Galfridi archiepiscopi Eboracensis
  • Vita sancti Ethelberti
  • Vita sancti Remigii
  • Vita sancti Davidii

[golygu] Gwaith Gerallt mewn cyfieithiad

  • Lewis Thorpe (cyf.), The journey through Wales and The description of Wales (Llundain, 1978)
  • John J. O'Meara (cyf.), The history and topography of ireland (Llundain, 1982)
  • Thomas Jones (cyf.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938). "Hanes y Daith trwy Gymru" a'r "Disgrifiad o Gymru".

[golygu] Llyfrau amdano

  • Robert Bartlett, Gerald of Wales (1982)
  • Thomas Jones, Gerallt Gymro (Caerdydd, 1947)
  • Michael Richter, Giraldus Cambriensis and the Growth of the Welsh Nation (1972)
Our "Network":

Project Gutenberg
https://gutenberg.classicistranieri.com

Encyclopaedia Britannica 1911
https://encyclopaediabritannica.classicistranieri.com

Librivox Audiobooks
https://librivox.classicistranieri.com

Linux Distributions
https://old.classicistranieri.com

Magnatune (MP3 Music)
https://magnatune.classicistranieri.com

Static Wikipedia (June 2008)
https://wikipedia.classicistranieri.com

Static Wikipedia (March 2008)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com/mar2008/

Static Wikipedia (2007)
https://wikipedia2007.classicistranieri.com

Static Wikipedia (2006)
https://wikipedia2006.classicistranieri.com

Liber Liber
https://liberliber.classicistranieri.com

ZIM Files for Kiwix
https://zim.classicistranieri.com


Other Websites:

Bach - Goldberg Variations
https://www.goldbergvariations.org

Lazarillo de Tormes
https://www.lazarillodetormes.org

Madame Bovary
https://www.madamebovary.org

Il Fu Mattia Pascal
https://www.mattiapascal.it

The Voice in the Desert
https://www.thevoiceinthedesert.org

Confessione d'un amore fascista
https://www.amorefascista.it

Malinverno
https://www.malinverno.org

Debito formativo
https://www.debitoformativo.it

Adina Spire
https://www.adinaspire.com